Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon a Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw bydd Llywodraeth Cymru yn lansio Rhaglen Plant Iach Cymru yn ystod digwyddiad yng Nghaerdydd sy’n rhan o wythnos ymwelwyr iechyd. O 1 Hydref, bydd holl fyrddau iechyd Cymru’n dechrau rhoi’r rhaglen ar waith.

Bwriedir iddi fod yn rhaglen iechyd gynhwysol i bob teulu sydd â phlant 0 - 7 oed. Bydd yn cynnwys amrywiaeth gyson o fesurau ataliol ac ymyrraeth gynnar sy’n seiliedig ar dystiolaeth (e.e. sgrinio, archwiliadau datblygu), a chyngor a chanllawiau i gefnogi rhianta a dewisiadau iach o ran ffordd o fyw. Mae’r rhaglen yn nodi beth y mae plant a theuluoedd yn gallu ei ddisgwyl o ran cysylltiadau wedi’u trefnu â’u byrddau iechyd wrth iddynt symud o’r gwasanaeth mamolaeth i flynyddoedd cynnar ysgol (0-7 oed). Mae’r cysylltiadau cynhwysol hyn yn cynnwys tri maes ymyrryd: sgrinio; imiwneiddio; a monitro a chefnogi datblygiad plentyn.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i ganmol gwaith yr holl weithwyr proffesiynol a gyfrannodd at ddatblygu Rhaglen Plant Iach Cymru. Mae’r fenter hon, a arweiniwyd gan y gwasanaethau, wedi achub ar y cyfle i asesu darpariaethau presennol byrddau iechyd yng ngoleuni’r dystiolaeth ddiweddaraf. Cytunwyd wedyn ar ddull o fonitro a chefnogi datblygiad plentyn ar gyfer Cymru gyfan.

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae tlodi plant yn her sylweddol wrth gyflawni canlyniadau iechyd gwell. Yn aml, mae’r plant hyn yn byw mewn teuluoedd ansefydlog ac yn symud rhwng byrddau iechyd. Drwy ddatblygu a darparu gwasanaethau sy’n cynnwys set sylfaenol o gysylltiadau cynhwysol yng Nghymru, bydd byrddau iechyd yn lleihau’r posibilrwydd na fydd y plant hyn a’u teuluoedd yn manteisio ar effaith gadarnhaol rhaglen ymyrraeth gynnar a rhaglen iechyd y cyhoedd.

Ni fydd un gwasanaeth ar ei ben ei hunan yn cyflawni’r effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant plant yr hoffem ni i gyd ei gweld. Nodwedd bwysig Rhaglen Plant Iach Cymru lwyddiannus fydd cydweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, cymunedau, y byd addysg a’r trydydd sector. Rydym yn credu y bydd byrddau iechyd, drwy Raglen Plentyn Iach Cymru, yn darparu sylfaen gadarn i gyflawni’r canlyniadau angenrheidiol yn ystod y blynyddoedd cynnar.

Cyhoeddwyd trosolwg o gyflwyniad Rhaglen Plant Iach Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.