Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Yn dilyn ein hymgynghoriad diweddar ynghylch ei gwneud hi’n orfodol i roi microsglodion ar bob ci, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Cymru yn llunio rheoliadau a fydd yn sicrhau bod microsglodion yn cael eu rhoi ar bob ci erbyn mis Mawrth 2015. Bydd hyn yn creu cyswllt priodol rhwng ci â’i berchennog ac yn helpu i annog perchenogion cŵn i fod yn fwy cyfrifol. Byddaf hefyd yn cyflwyno Rheoliadau ynghylch trwyddedu bridio cŵn yn ddiweddarach eleni er mwyn ceisio mynd i’r afael â pherchenogaeth anghyfrifol.
Mae canlyniadau ymgynghoriad y llynedd ynghylch microsglodion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr y dylid ei gwneud hi’n orfodol i roi microsglodion ar bob ci yng Nghymru.
Er bod gan berchnogion cŵn eisoes ddyletswydd gofal yn sgil y Ddeddf Lles Anifeiliaid, mae hi’n gynyddol bwysig sicrhau bod modd cysylltu perchnogion â’u cŵn. Gall hi fod yn anodd iawn sicrhau bod y ddyletswydd honno’n cael ei chyflawni heb ddull o adnabod perchnogion cŵn. Bydd microsglodion yn ffurfioli ymhellach y berthynas rhwng perchennog â’i gi, gan sicrhau bod perchnogion yn fwy atebol am anghenion lles eu hanifeiliaid.
Rwyf felly wedi penderfynu mynd ati i lunio Rheoliadau a fydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i roi microsglodyn ar bob ci yng Nghymru erbyn 1 Mawrth 2015.
Gall milfeddyg, nyrs milfeddygol neu berson cymwys yn gallu cofrestru ac adnabod cŵn drwy osod trawsatebwr neu ficrosglodyn o dan groen yr anifail. Mae gan bob microsglodyn rif unigryw a all gael ei ddarllen gan declyn darllen allanol a chaiff rhif y microsglodyn ei gofrestru ar gronfa ddata fasnachol fel arfer. Golyga hyn fod modd i awdurdod priodol dderbyn yr wybodaeth angenrheidiol.
Bydd rhoi microsglodion yn galluogi perchnogion i ganfod eu cŵn sydd wedi mynd ar goll a bydd yn osgoi’r straen ar gŵn a pherchenogion. Bydd hefyd yn golygu na fydd yn rhaid i gŵn dreulio cymaint o amser mewn sefydliadau lles anifeiliaid neu lety cŵn awdurdodau lleol, gan sicrhau arbedion sylweddol i awdurdodau lleol ac elusennau lles. Yn 2010/11 cafodd dros 126,000 o gŵn strae eu casglu gan Awdurdodau Lleol y DU. Nid oedd modd dychwelyd dros hanner y rhain (52%) i’w perchnogion gan nad oedd modd eu canfod. Yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2012 cafodd 10,230 o gŵn strae eu casglu gan Awdurdodau Lleol Cymru. Cafodd 543 o gŵn eu rhoi i gysgu a threuliodd nifer uchel amser hir mewn llety cŵn, i ffwrdd o’u perchnogion neu eu teuluoedd.
Mae adnabod anifeiliaid hefyd yn ddull hanfodol ar gyfer rheoli clefydau mewn modd effeithiol. Yn achos cŵn, a sawl anifail arall, gall fod o gymorth wrth olrhain cyflyrau a gaiff eu hetifeddu. Er enghraifft, mae’n aml yn anodd iawn olrhain hanes teulu o gŵn bach, ac yn enwedig os cant eu gwerthu drwy werthwyr anifeiliaid a siopau anifeiliaid anwes. Mae camau’n cael eu cymryd er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r problemau iechyd hyn, ond byddai lawer yn haws i adrodd ynghylch problemau iechyd a gaiff eu hetifeddu ac i fesur cynnydd petai gan bob ci ficrosglodyn unigryw.
O blith yr oddeutu 450,000 o gŵn a geir yng Nghymru, amcangyfrifir bod gan oddeutu 58% ohonynt ficrosglodyn. Golyga hyn y byddai angen rhoi microsglodyn ar tua 190,000 o gŵn. Os caiff y microsglodion eu rhoi mewn milfeddygfeydd gall y milfeddygon hefyd archwilio iechyd y ci ar yr un pryd.
Rydym yn amcangyfrif ei bod hi’n bosibl rhoi microsglodion ar yr holl gŵn hynny o fewn blwyddyn i gyflwyno’r Rheoliadau. Bydd y Rheoliadau yn rhoi 12 mis i berchnogion drefnu i’w cŵn gael microsglodyn.
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi hefyd y gall y Dogs Trust gynnig rhoi microsglodion ar gŵn am ddim hyd nes y daw’r Rheoliadau i rym. Gall perchnogion cŵn fynd ati i drefnu hyn drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r Dogs Trust - www.dogstrust.org.uk.