Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dros yr wyth mis diwethaf, mae trafodaeth frwd wedi digwydd yng Nghymru ynghylch gofal iechyd darbodus a’i botensial i GIG Cymru a’i gleifion. Mae pobl sy’n gweithio yn y GIG a gwasanaethau cyhoeddus wedi croesawu’r drafodaeth hon ac mae amryw enghreifftiau eraill o ofal iechyd darbodus wedi dod i’r amlwg.
Ym mis Gorffennaf, amlinellwyd y camau nesaf cychwynnol a fyddai’n cael eu cymryd i hyrwyddo gofal iechyd darbodus a sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad yn y mudiad byd-eang newydd hwn. Roedd hyn yn cynnwys datblygu gwefan ryngweithiol i gofnodi safbwyntiau’r rheini sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, neu sy’n eu defnyddio, ynghylch ystyr gofal iechyd darbodus iddyn nhw a’i botensial i Gymru. Rwy’n falch iawn o gael lansio Rhoi Gofal Iechyd Darbodus ar Waith yng Nghynhadledd Iechyd y Cyhoedd heddiw.
Ni fydd gofal iechyd darbodus yn digwydd os mai dim ond Llywodraeth Cymru fydd yn gweithredu. Er mwyn i’r GIG fynd i’r afael â gofal iechyd darbodus, bydd angen i arweinwyr, rheolwyr, clinigwyr a’r cyhoedd feddwl am ystyr yr egwyddorion iddyn nhw a’r ffordd y maent yn rhyngweithio â gwasanaethau iechyd, a dechrau gweithredu.
Bwriad y gwahanol benodau ar y wefan yw ysgogi trafodaeth, trwy gymorth blwch sylwadau ar-lein i bobl allu gynnig eu barn eu hunain.
Mewn pennod agoriadol ar y wefan, rwy’n amlinellu sut mae egwyddorion gofal iechyd darbodus yn gyfle gwych i greu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn cynnig manteision cymdeithasol nawr, ac am genedlaethau i ddod. O wneud pethau’n iawn, mae gofal iechyd darbodus yn cynnig ffordd o gynnal egwyddorion sefydlol Aneurin Bevan ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol at y dyfodol.
Ond mae angen i ofal iechyd darbodus fod yn fwy na syniad ac yn fwy na set o egwyddorion. Mae angen i hyn newid y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu defnyddio a’u darparu. Mae’n rhaid i hyn wneud gwahaniaeth ymarferol go iawn i’r miliynau o gysylltiadau sy’n digwydd bob blwyddyn rhwng pobl Cymru a’u gwasanaeth iechyd.
Mae’r enghreifftiau sy’n cael eu cyhoeddi ar-lein heddiw ad yn dangos sut mae gofal iechyd darbodus eisoes yn digwydd yng ngwaith y tîm gwasanaethau arennol yn Ysbyty Treforys yn Abertawe, sy’n rhoi egwyddorion cydgynhyrchu wrth wraidd y broses o ailgynllunio eu gwasanaethau ac sydd wedi gwella eu hansawdd yn sylweddol, ynghyd â gwella gwasanaethau lymffedema ledled Cymru, sy’n ymgorffori egwyddorion gofal iechyd darbodus ac yn arwain y ffordd yn Ewrop.
Bydd lansio Rhoi Gofal Iechyd Darbodus ar Waith yn helpu i sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ar flaen y gad yn y mudiad byd-eang hwn, a’n bod yn symud o siarad am yr egwyddorion i gymryd camau i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Cyfeiriad y wefan yw www.prudenthealthcare.org.uk. Bydd yn cael ei ddiweddaru rhwng nawr a mis Ionawr i roi rhagor o safbwyntiau ac enghreifftiau.
Cynnwys Cychwynnol
Mae’r adnodd yn rhoi safbwyntiau ynghylch:
- GIG ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – pam ein bod yn rhoi gofal iechyd darbodus ar waith gan Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Enghreifftiau rhyngwladol o ofal iechyd darbodus llwyddiannus gan yr Athro Syr Mansel Aylward, CB Cadeirydd y Comisiwn Bevan
- Gwella iechyd ein holl blant – gofal iechyd darbodus ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol gan Dr Shantini Paranjothy, Uwch Ddarlithydd Clinigol, Prifysgol Caerdydd
- Cydgynhyrchu gofal iechyd darbodus: rhannu’r ffeithiau gyda phobl gan Ruth Dineen Cydgynhyrchu Cymru
- Technoleg gwybodaeth – ffordd hanfodol o ddarparu gofal iechyd darbodus gan yr Athro Ronan Lyons, Athro Clinigol Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Abertawe.
- Arloesi – y grym sy’n gyrru gofal iechyd darbodus gan Chris Martin, cyn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac Ifan Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesi a Thechnoleg, Llywodraeth Cymru
- Her arweinyddiaeth gofal iechyd darbodus gan Allison Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (ar ran prif weithredwyr byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru)
- Troi penderfyniadau meddygol arferol yn arferion darbodus gan Dr Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Cyflwyno egwyddorion darbodus mewn meddygaeth tra manwl gan Dr Berwyn Clarke, Pandion Biotech Consulting Ltd
- Canlyniadau iechyd gwell a gofal mwy diogel drwy bresgripsiynu darbodus gan yr Athro Phil Routledge, Athro Ffarmacoleg Glinigol, Prifysgol Caerdydd
- Canolbwyntio gwasanaethau gofal sylfaenol ar bobl drwy gymhwyso gofal iechyd darbodus gan Dr Sally Lewis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Her gofal iechyd darbodus o ran iechyd y cyhoedd gan Patricia Riordan, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd a Gofal Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Gosod egwyddorion darbodus ar draws y sector cyhoeddus gan Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy
- Rhyddhau grym gofal iechyd darbodus drwy ailalluogi, adfer ac adsefydlu. Ruth Crowder, Swyddog Polisi Cymru, Coleg y Therapyddion Galwedigaethol
- Sicrhau rhagoriaeth ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol drwy ofal iechyd darbodus gan Sue Evans, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Thai Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
- Darparu gwasanaeth lymffedema darbodus
- Gwasanaethau arennol gyda’r nos
- Trawsnewid Gofal Cymdeithasol Oedolion
- Rhith-glinig cardioleg
Rwy’n gobeithio y byddwch yn cael cyfle i fynd i’r wefan a chyfrannu at lunio’r agenda hon ar gyfer Cymru.