Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 3 Mawrth cyhoeddais fy mod wedi gwneud y Gorchymyn cychwyn cyntaf mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ("y Ddeddf") gan gadarnhau fy mwriad i wneud Gorchmynion cychwyn pellach cyn diwedd tymor y Senedd hon.

Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fy mod wedi gwneud Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Gorchymyn Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2021.

Bydd yr ail Orchymyn cychwyn yn dwyn i rym, ar 1 Ebrill 2021, y rhan fwyaf o Bennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf mewn perthynas â pherfformiad a llywodraethu prif gynghorau.  Bydd Pennod 3 o'r Rhan honno, sy'n darparu ar gyfer cydgysylltu rhwng rheoleiddwyr, hefyd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2021.

Bydd hyn yn sicrhau y bydd y gyfundrefn perfformiad a llywodraethu newydd, ac eithrio'r darpariaethau sy'n ymwneud ag asesiadau perfformiad gan banel, yn gymwys i brif gynghorau o flwyddyn ariannol 2021-22 ac mewn perthynas â hi. Bydd hyn yn rhoi'r flwyddyn ariannol gyfan i brif gynghorau gynnal eu hunanasesiad cyntaf a chyflwyno adroddiad yn gynnar ym mlwyddyn ariannol 2022-23.  

Bydd cynghorau yn parhau i asesu eu perfformiad yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ("Mesur 2009") mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020-21, gydag adroddiadau i'w cyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref 2021.

Bydd y darpariaethau sy'n ymwneud ag asesiad perfformiad gan banel yn dechrau ar 5 Mai 2022 yn unol â’r etholiad cyffredin nesaf i ethol cynghorwyr. Bydd hyn yn golygu y gellir cyflwyno'r drefn newydd yn raddol ac yn bwyllog, gan ganiatáu i o leiaf un cylch o hunanasesiadau gael ei gynnal cyn ei gwneud yn ofynnol i asesiad panel gael ei gwblhau.

Fis Tachwedd 2020, lansiais ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft i hwyluso gweithredu'r drefn newydd, ac i gefnogi prif gynghorau i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ran 6 o'r Ddeddf. 

Cyn ymgynghori'n ffurfiol, datblygwyd y canllawiau statudol drafft ar y cyd â llywodraeth leol ac ymgysylltwyd yn helaeth â rhanddeiliaid allweddol.  Roeddwn am sicrhau bod y canllawiau a gynhyrchid gennym yn rhywbeth gwerthfawr i lywodraeth leol, gan roi cyfle ystyrlon i gryfhau cynghorau'n barhaus.

Daeth yr ymgynghoriad ar y canllawiau drafft i ben ar 3 Chwefror 2021 ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi ymateb. Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad, at ei gilydd, fod cefnogaeth eang i'r canllawiau fel y'u drafftiwyd, a bod y dull o gyd-ddatblygu'r canllawiau yn cael ei ystyried yn un adeiladol.  Codwyd rhai pwyntiau sydd wedi'u hystyried yn y canllawiau terfynol, i egluro neu gryfhau rhai agweddau. Bwriadaf gyhoeddi'r canllawiau hyn ar gyfer prif gynghorau yr wythnos nesaf, gan sicrhau eu bod ar waith cyn i'r dyletswyddau newydd ddechrau ar 1 Ebrill.

Mae'r ail Orchymyn cychwyn hefyd yn datgymhwyso Mesur 2009 ar gyfer prif gynghorau ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol, ac mae'n cynnwys darpariaethau arbed i sicrhau bod arfer swyddogaethau penodol, a phethau eraill a wneir o dan Fesur 2009, yn parhau i gael effaith ar ôl iddo gael ei ddatgymhwyso.

O ganlyniad i'r gyfundrefn perfformiad a llywodraethu newydd yn Rhan 6, a datgymhwyso Mesur 2009 yn sgil hynny, mae angen nifer o ddiwygiadau canlyniadol i ddeddfiadau eraill. Darperir ar gyfer y rhain yn Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021, yr wyf hefyd wedi'u gwneud heddiw. Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Mae'r ail Orchymyn cychwyn hefyd yn dod ag adran 115 o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021. Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer ailenwi 'Pwyllgorau Archwilio' yn 'Bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio' ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r pwyllgorau hyn adolygu ac arfarnu asesiad perfformiad eu cyngor, ynghyd â'i allu i ymdrin â chwynion yn effeithiol.

Daw Pennod 2 o Ran 6, sy'n gwneud darpariaethau mewn perthynas ag aelodaeth a thrafodion pwyllgorau llywodraethu ac archwilio, i rym ar 5 Mai 2022.

Bydd y darpariaethau hynny yn Rhan 7 o Ddeddf 2021, yn ymwneud ag ailstrwythuro prif ardaloedd, nad ydynt eto mewn grym, hefyd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2021.