Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24, derbyniodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre £7.35m mewn incwm a gynhyrchwyd o dreial masnachol a gynhaliwyd o dan arweiniad yr ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r ymddiriedolaeth wedi gofyn imi gymeradwyo bod yr arian yn cael ei roi i elusen Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ac rwyf innau wedi rhoi fy nghymeradwyaeth. O ganlyniad, bydd yr arian a godir o weithgareddau ymchwil yn cefnogi’r ddarpariaeth gwasanaethau canser dros y blynyddoedd sydd i ddod, yn unol ag amcanion yr elusen a’r ymddiriedolaeth.
Mae elusen Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn rhoi cymorth i’r ymddiriedolaeth ar gyfer darparu triniaeth, gofal a chymorth sy’n cael eu harwain gan ymchwil, o safon fyd-eang, i unigolion a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan ganser. Mae’n hyrwyddo ac yn cefnogi gweithgareddau sy’n cyflawni ansawdd, gofal a rhagoriaeth ym mhob gwasanaeth a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.