Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
O dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”), gall awdurdodau lleol cymwys arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Ers 1 Tachwedd, mae hyn yn gymwys i brif gynghorau yn unig. O 5 Mai 2022, bydd hyn yn gymwys hefyd i gynghorau cymuned cymwys. Pennir yr amodau ar gyfer eu cymhwysedd o dan adran 30 o'r Ddeddf.
Mae arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn adran 27 o'r Ddeddf, gan gynnwys y gofyniad i fasnachu drwy gwmni. Mae adran 28 o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddarparu bod arfer y pŵer cyffredinol yn ddarostyngedig i amodau (pellach). Daeth Rheoliadau Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021) i rym ar 1 Tachwedd 2021 ac yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau baratoi a chyhoeddi achos busnes cyn iddynt arfer y pŵer at ddiben masnachol a gofynion cysylltiedig eraill. Gan fod y pŵer cyffredinol yn mynd i gael ei ymestyn i gynghorau cymuned cymwys o 5 Mai 2022, mae Rheoliadau 2021 wedi'u diwygio i ymestyn gofynion Rheoliadau 2021 i gynghorau cymuned cymwys.
Ar wahân, mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 yn awdurdodi cynghorau, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru i fasnachu, drwy gwmni, yn eu swyddogaethau cyffredin – ac eithrio'r rhai y mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r awdurdod eu darparu. Yn dilyn ymgynghoriadau, bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei ddiweddaru i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig a chynghorau cymuned cymwys fel 'awdurdodau perthnasol'. Mae'n gwneud darpariaeth debyg i Reoliadau 2021 a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol o'r fath baratoi a chymeradwyo achos busnes i gefnogi'r bwriad i arfer y pŵer a gofynion cysylltiedig eraill.
Rwyf yn falch o hysbysu'r aelodau fy mod i bellach wedi gosod gerbron y Senedd Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) (Diwygio) 2022 a Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Perthnasol) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2022.
Daw'r ddau i rym ar 5 Mai 2022.