Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf yn falch o gyhoeddi fy mod wedi gosod rheoliadau i sicrhau na fydd aelwydydd sy'n lletya pobl o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin ar eu colled o ran disgowntiau neu esemptiadau'r Dreth Gyngor o ganlyniad i'w cynnig tosturiol i roi cymorth i bobl mewn angen dybryd.

Rydym i gyd yn sefyll o blaid pobl Wcráin sy'n brwydro’n ddewr i wrthsefyll y weithred ryfel erchyll hon ac mae llawer o bobl yng Nghymru am wneud popeth o fewn eu gallu i'w helpu yn eu hawr o angen. 

Bydd y ddeddfwriaeth yn sicrhau y caiff Wcreiniad sydd wedi sicrhau fisa o dan y cynllun noddi Cartrefi i Wcráin ei ddiystyrru at ddibenion y dreth gyngor. Bydd hyn yn diogelu disgownt oedolyn sengl y noddwr, lle bo'n  berthnasol, a'r gostyngiad o 50% a dderbynnir gan aelwyd noddi lle mae'r holl feddianwyr eisoes wedi'u diystyru.   Bydd hefyd yn sicrhau na chollir esemptiad pan fo aelwyd yn lletya person sydd wedi sicrhau fisa o dan y cynllun noddi Cartrefi i Wcráin.

Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth bellach maes o law i sicrhau y bydd pobl sy'n dod i Gymru o Wcráin yn gallu cael mynediad at gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Yn y cyfamser, mae gan bobl sy'n cyrraedd o Wcráin trwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin a chynlluniau eraill fynediad at gymorth y dreth gyngor mewn achosion o galedi ariannol ac mae'r awdurdodau lleol yn darparu disgowntiau yn ôl disgresiwn lle maent yn credu bod hyn yn briodol.