Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
Bydd Aelodau o'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Gweinidog Bioddiogelwch, Iechyd Anifeiliaid a Lles arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Gofynnwyd am gytundeb gan y Gweinidog y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Douglas-Miller i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau'r Amgylchedd a Materion Gwledig (Dirymu a Darpariaeth Ganlyniadol) 2024.
Gosodwyd yr OS uchod gerbron Senedd y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 13 Mawrth drwy arfer pwerau a roddwyd gan Adran 14 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ("Deddf REUL").
Bydd y Rheoliadau'n dirymu deddfwriaeth a nodwyd yn ddiangen ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, na chafodd ei chynnwys yn Atodlen 1 i Ddeddf REUL. Ni fydd ei ddileu yn cael unrhyw effaith polisi yng Nghymru. Gosodwyd yr OS gerbron Senedd y DU ar 13 Mawrth.
Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:
Nid yw'r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru.
Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, felly, rwy'n rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn am resymau effeithlonrwydd a chydgysylltiad trawslywodraethol, a chysondeb.
Mae'r Rheoliadau i'w gweld yma: The Retained EU Law (Revocation and Reform) Act 2023 (Environment, Food and Rural Affairs) (Revocation) Regulations 2024 - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn Unig).