Edwina Hart AC CStJ MBE, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ym mis Mai 2015, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Gynllun y Bathodyn Glas, a chyhoeddais fod Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu er mwyn adolygu’r cynllun a rhoi cyngor ar newidiadau iddo.
Cyhoeddwyd adroddiad ac argymhellion y Grŵp, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad, ym mis Rhagfyr 2015. Ni ellir cyflawni rhai o argymhellion y Grŵp yn syth, am fod angen gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn eu gweithredu. Fodd bynnag, rwy'n glir fy mod am weld gwelliant o ran y modd y mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan awdurdodau lleol.
Ym mis Ionawr 2016, lansiais ymgynghoriad ar yr argymhellion y gellir eu cyflawni heb ddeddfwriaeth sylfaenol newydd, gan gynnwys cynigion i ymestyn cymhwysedd ar gyfer y cynllun i bobl â chyflyrau dros dro; symleiddio'r broses weinyddu ar gyfer ailgeisiadau; a gwella camau gorfodi er mwyn atal pobl rhag defnyddio Bathodynnau trwy dwyll, a chymryd y mannau parcio hynny y mae eu hangen ar ddeiliaid Bathodynnau bregus.
Mae Cymru yn arwain y ffordd wrth ymestyn y meini prawf cymhwysedd i gynnwys pobl â namau gwybyddol nad ydynt yn gallu teithio'n ddiogel ac yn annibynnol, ac mae rhannau eraill o'r DU bellach yn ystyried gwneud hynny hefyd. Heddiw, rwyf wedi mynd â Chymru gam ymhellach, trwy gyflwyno Rheoliadau a fydd yn ymestyn y cymhwysedd ar gyfer Bathodynnau Glas i'r rheini sydd â nam dros dro ar eu symudedd, sy'n para o leiaf flwyddyn. Y bwriad yw i hyn gynnwys pobl â namau ar eu symudedd, er enghraifft, pobl:
- â thoriadau cymhleth i'r goes sydd â sefydlogwyr allanol
- sydd wedi cael strôc neu anaf i'r pen ac sy'n gwella'n araf, ond yn gyson
- sydd wedi cael anafiadau trawmatig i'r asgwrn cefn sy'n cynnwys colli gweithrediad niwrolegol y goes, ac sy'n gwella'n araf, ond yn gyson
- â namau difrifol ar weithrediad y goes sy'n aros i gael triniaeth i osod cymal newydd, neu sydd wedi cael y driniaeth honno, ac sy'n gwella'n fwy araf na'r disgwyl.
Bydd y Rheoliadau hyn yn golygu bod y rheini sydd â namau difrifol ar eu symudedd, ond, a fydd yn gwella yn y pen draw, yn gallu cael budd o'r consesiynau y mae Bathodyn Glas yn eu cynnig. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddynt gael gwasanaethau a chyfleusterau i'w helpu i wella a pharhau i fyw'n annibynnol yn ystod y cyfnod hwn.