Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi gosod Rheoliadau drafft Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 gerbron Senedd Cymru. Os cânt eu cymeradwyo, bydd y Rheoliadau yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau cymhwysol mewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru.

Rhaid i bob safle treth arbennig gael ei ddynodi gan lywodraeth y DU drwy reoliadau cyn y gall y rhyddhad ddod ar gael ar drafodiadau cymhwysol yn y safle treth arbennig hwnnw. Safle treth arbennig y Porthladd Rhydd Celtaidd fydd y cyntaf i gael ei ddynodi gan lywodraeth y DU. Bydd y dynodiad yn dod i rym ar 26 Tachwedd. Bydd croeso arbennig i statws porthadd rhydd yn y rhan hon o Gymru, yng nghyd-destun y swyddi sy’n cael eu colli yng ngwaith dur TATA.   Pan fydd safleoedd treth arbennig yn cael eu dynodi yn y dyfodol, byddaf yn gwneud rheoliadau pellach (yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd Cymru) i gynnwys y safleoedd newydd hyn o fewn y rhyddhad rhag treth trafodiadau tir ar gyfer safleoedd treth arbennig.

Bydd porthladd rhydd yng Nghymru yn darparu cymhellion treth a thollau tramor i fusnesau newydd sy'n sefydlu eu hunain yn ardal y porthladd rhydd neu i fusnesau presennol yn ardal y porthladd rhydd sy'n ehangu eu gweithrediadau. Mae'r cymhellion treth yn cynnwys rhyddhad wedi'i dargedu rhag cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a lwfansau cyfalaf uwch – y ddwy yn dreth a gedwir yn ôl gan lywodraeth y DU. Bydd cymhellion treth hefyd yn cael eu darparu ar gyfer ardrethi annomestig a threth trafodiadau tir – y ddau yn fater sydd wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru a Senedd Cymru. 

Mae cymhellion treth y porthladdoedd rhydd, gan gynnwys y rhyddhad rhag treth trafodiadau tir, yn ysgogwyr o ran effaith y rhaglen a bwriedir iddynt helpu safleoedd i ddenu buddsoddiad preifat a chyflawni amcanion polisi ehangach y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru. 

Mae copi o'r rheoliadau drafft a'r Memorandwm Esboniadol ar gael yma:

SUB-LD16757 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024

SUB-LD16757-EM - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024 - Memorandwm Esboniadol