Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar gais Llywodraeth y DU mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) Cymru 2020 i eithrio teithwyr o restr o wledydd rhag y gofyniad i ynysu a wnaed yn ofynnol yn y rheoliadau. Gwnaed y rheoliadau gwreiddiol ar 5 Mehefin a daethant i rym ar 8 Mehefin; daw’r rheoliadau diwygiedig i rym ar 10 Gorffennaf. O ganlyniad i’r rheoliadau diwygiedig, ni fydd teithwyr sy’n cyrraedd Cymru o’r gwledydd a restrir isod bellach yn gorfod ynysu am gyfnod.   

Mae’r rheoliadau teithio yn ei gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin, neu deithwyr sydd wedi bod y tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin yn ystod yr 14 diwrnod diwethaf, i ddarparu eu manylion cyswllt a’u gwybodaeth deithio ac i ynysu am gyfnod o 14 diwrnod. Mae’r Rheoliadau yn cynnwys nifer o eithriadau ar gyfer categorïau penodol o bobl - fel criwiau awyrennau, er enghraifft. Mae’r diwygiadau a gytunwyd yn awr yn eithrio teithwyr o’r gwledydd a restrir.

Rydym hefyd yn cymryd y cyfle i ddiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 i roi hyblygrwydd o ran sut y bydd y datganiad iechyd y cyhoedd yn cael ei gyflwyno i deithwyr ar awyrennau. Rydym yn cysoni’r datganiad â’r datganiadau a roddir ar ran gwledydd eraill y DU. 

Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb am reoli ffiniau’r DU. Drwy gydol y broses, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio bod yn adeiladol i alluogi Llywodraeth y DU i gyflawni ei hamcanion polisi. Mae Llywodraeth y DU wedi rhannu ei methodoleg gyda ni ac mae’r fethodoleg hon wedi’i hadolygu gan y Prif Swyddog Meddygol.    

 

Isod mae’r rhestr o’r gwledydd esempt sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau. 

  • Yr Almaen
  • Andorra
  • Antigua a Barbuda
  • Aruba
  • Awstralia
  • Awstria
  • Y Bahamas
  • Barbados
  • Bonaire, Sint Eustatius a Saba
  • Caledonia Newydd
  • Croatia
  • Curaçao
  • Cyprus
  • Denmarc
  • Dinas y Fatican
  • Dominica
  • Yr Eidal
  • Fiet-nam
  • Fiji
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Grenada
  • Guadeloupe
  • Gweriniaeth Korea
  • Gwlad Belg
  • Gwlad Groeg
  • Gwlad yr Iâ
  • Gwlad Pwyl
  • Hong Kong
  • Hwngari
  • Yr Iseldiroedd
  • Jamaica
  • Japan
  • Kalaallit Nunaat (Greenland)
  • La Reunion
  • Liechtenstein
  • Lithiwania
  • Lwcsembwrg
  • Macau
  • Malta
  • Mauritius
  • Monaco
  • Norwy
  • Polynesia Ffrengig
  • Saint Barthélemy
  • Saint Kitts a Nevis
  • Saint Lucia
  • San Marino
  • Saint Pierre a Miquelon
  • Sbaen
  • Seland Newydd
  • Serbia
  • Seychelles
  • Y Swistir
  • Taiwan
  • Trinidad a Tobago
  • Twrci
  • Y Weriniaeth Tsiec
  • Ynysoedd Ffaröe

Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig

  • Anguilla
  • Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus
  • Bermuda
  • Gibraltar
  • Montserrat
  • Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha
  • Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
  • Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
  • Ynysoedd Cayman
  • Ynysoedd De Sandwich a De Georgia
  • Ynysoedd Falkland
  • Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno
  • Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
  • Ynysoedd Turks a Caicos