Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, cyhoeddwyd fersiwn ddrafft o Reoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ar gyfer ymgynghori arnynt.
Cafodd Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 Gydsyniad Brenhinol ar 4 Mawrth 2013. Bellach mae gan Weinidogion Cymru yr awdurdod i’w gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd gael ei sgorio ar eu safonau hylendid bwyd ac i arddangos y sgôr hwnnw mewn man amlwg lle gall y cwsmeriaid ei weld yn hawdd, megis wrth y fynedfa i’w busnes. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y cwsmeriaid yn cael gwybodaeth sy’n hawdd ei deall am safonau hylendid busnes bwyd cyn penderfynu prynu’r bwyd. Mae hyn yn hanfodol bwysig gan y bydd yn rhoi pŵer i’r cwsmeriaid wneud dewisiadau gwell ynghylch ble i fwyta neu siopa am fwyd. Rwyf hefyd o’r farn y bydd rhoi’r pŵer hwn i’r cwsmer yn gwella safonau hylendid bwyd busnesau bwyd unigol ledled Cymru. Rwyf wedi ymrwymo i wneud y ddeddfwriaeth hon mor gynhwysfawr â phosibl i’r cwsmeriaid ond hefyd yn ymarferol i fusnesau bwyd a’r awdurdodau bwyd fydd yn ei gorfodi.
Mae’n fwriad gennyf gychwyn y rhan fwyaf o’r darpariaethau yn y Ddeddf yn ystod Tachwedd 2013. Fodd bynnag, cyn y gall y Ddeddf ddod i rym yn llwyr bydd angen gwneud Rheoliadau sy’n delio â manylion nad yw’r Ddeddf yn ymdrin â hwy ar yr wyneb. Ymysg y rhain mae ffurf y sticeri sgorio hylendid bwyd a sut y bydd rhaid iddynt gael eu harddangos mewn gwahanol fathau o fusnesau bwyd. Heddiw cyhoeddwyd y Rheoliadau hyn ar ffurf ddrafft er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid roi eu sylwadau arnynt.
Bydd y cyfnod ymgynghori ar y Rheoliadau drafft yn dod i ben ar 21 Mehefin 2013.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.