Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ysgrifennaf atoch i hysbysu'r Senedd fy mod yn rhoi caniatâd i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru. Gofynnwyd am gydsyniad gan Victoria Prentis AS i wneud Rheoliadau Rhestrau Gwledig Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.

Mae angen yr offeryn statudol uchod i ganiatáu mewnforio dofednod a chynhyrchion dofednod i ailddechrau o rai rhanbarthau o Wcrain ac Awstralia gyfan yn dilyn rheolaeth lwyddiannus ar achosion o ffliw adar yn y gwledydd hynny.

Gwneir y Rheoliadau hyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer pwerau a roddwyd gan Reoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Swyddogaethau Deddfwriaethol) a Milfeddygon (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 (O.S. 2019/1225), yn benodol, rheoliad 7.

Maent yn diwygio Atodiad 1 i Reoliad y Comisiwn a gedwir (EC) Rhif 798/2008 sy'n gosod rhestr o drydydd gwledydd, tiriogaethau, parthau neu compartmentau y gellir mewnforio dofednod a chynhyrchion dofednod ohonynt a'u cludo drwy Brydain Fawr a'r gofynion ardystio milfeddygol sy'n gymwys i allforio'r nwyddau hynny. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio rhai dyddiadau 'cau' ac 'agor' sy'n nodi'r cyfnodau pan fydd allforion o ranbarthau yr effeithir arnynt naill ai'n cael eu gwahardd neu eu caniatáu, gan adlewyrchu natur ddeinamig clefydau.

Mae'r offeryn hwn yn ei hanfod yn caniatáu i fasnach ailddechrau o ardaloedd yr effeithir arnynt dros dro gan ffliw adar, yn unol â'r polisi presennol y cytunwyd arno rhwng holl lywodraethau Prydain Fawr.

Caiff y rheoliadau eu gosod yn Senedd y Deurnas Unedig ar 16 Rhagfyr 2021.