Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Hoffwn hysbysu aelodau'r Senedd fy mod wedi cadarnhau'r cydsyniad a roddwyd gan fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths AS, a oedd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ar y pryd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Gosodwyd yr Offeryn Statudol (OS) uchod gerbron Senedd y DU gyntaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 18 Hydref 2023 drwy arfer y pwerau a roddwyd gan erthygl 126(1) o reoliad (EU) 2017/635 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill. Cafodd ei dynnu'n ôl yn ddiweddarach a'i ail-osod ar 7 Mai 2024.
Mae'r Offeryn Statudol yn dirymu cyfyngiadau a osodwyd ar rai sefydliadau bwyd Brasil. Bydd hyn yn galluogi sefydliadau bwyd Brasil y cyfyngwyd arnynt yn flaenorol i gael eu hychwanegu at y rhestr o sefydliadau a gymeradwywyd i allforio i Brydain Fawr, ar ôl i restr wedi'i diweddaru o'r sefydliadau a gymeradwywyd gan awdurdodau cymwys Brasil gael ei chyflwyno.
Nid yw'r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, yn diwygio nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru.
Hoffwn roi sicrwydd i'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Offeryn Statudol hwn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod o ran newid polisi yn y dyfodol, cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, cydgysylltu trawslywodraethol a chysondeb.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 7 Mai a byddant yn dod i rym ar 29 Mai 2024.