Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Bydd Aelodau'r Senedd am gael gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig ar gyfer Cymru.
Gofynnwyd am gytundeb gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, y Farwnes Hayman o Ullock i wneud Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) ac Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2025 ('y Rheoliadau').
Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru, Lloegr a'r Alban. Gwneir y Rheoliadau drwy arfer pwerau o fewn Rheoliad (UE) 2016/2031 ('y Rheoliad Iechyd Planhigion') a Rheoliad (UE) 2017/625 ('y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol'). Yn unol â'r Rheoliadau hynny, cysylltodd yr Ysgrifennydd Gwladol â Gweinidogion Cymru a'r Alban am gydsyniad i gymhwyso'r Rheoliadau i Gymru a'r Alban yn y drefn honno. Yn unol â'r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cynnal ymgynghoriad (y bydd crynodeb ohono yn ymddangos yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Rheoliadau).
Mae'r Rheoliadau'n diogelu bioddiogelwch ac yn cefnogi masnach rhwng Prydain Fawr a thrydydd gwledydd drwy gyflwyno neu ddiwygio mesurau i amddiffyn rhag plâu planhigion. Maent hefyd yn diwygio mesurau rheolaethau swyddogol penodol er mwyn sicrhau bod rheolau iechyd planhigion yn cael eu gweithredu, ac yn gwneud diweddariadau technegol i ddeddfwriaeth.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn diwygio'r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol i alinio nwyddau (ffrwythau a llysiau penodol) sydd wedi'u hesemptio o'r gofyniad i rag-hysbysu, â'r rhai sydd wedi'u hesemptio o'r gofynion i rai rheolaethau swyddogol gael eu cynnal pan fydd y nwyddau hynny'n cael eu mewnforio i Brydain Fawr o Aelod-wladwriaeth o'r UE, Liechtenstein neu'r Swistir. Mae hyn yn dod â'r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn unol â Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) 2019/2072 ('y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol').
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (UE) 2019/1014 ('Rheoliad Gofynion Sylfaenol Safle Rheolaethau'r Ffin’) i ddiffinio planhigion mawr, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau mawr eraill, ac mae'n mewnosod Erthygl 6A newydd i ddarparu'r gofynion ychwanegol ar gyfer ardaloedd dadlwytho ac ardaloedd archwilio ar gyfer y nwyddau hynny. Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn cynnwys rheoliadau 5 i 12 ac yn diwygio'r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol. Mae rheoliadau 5 a 6 yn diweddaru'r rhestr o blâu cwarantîn yn Atodiad 2 a'r rhestr o blâu cwarantîn dros dro yn Atodiad 2A. Mae Heterobasidion irregulare wedi cael ei ddileu o'r rhestr dros dro a'i ychwanegu at y rhestr o blâu cwarantin. Mae Diaporthe phaseolorum var. sojae wedi cael ei symud o'r categori “Bacteria” i'r categori “Ffyngau ac oomysetau”. Mae amryw enwau plâu wedi cael eu diwygio i sicrhau bod y plâu hynny'n cael eu hadnabod yn ôl eu henw diweddaraf.
Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn diweddaru amryw enwau plâu yn y rhestr o blâu di-gwarantîn a reoleiddir a'r planhigion cysylltiedig, a'r rhestr o fesurau i atal presenoldeb plâu di-gwarantîn a reoleiddir ar blanhigion penodol er mwyn sicrhau cysondeb ag enwau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae Rheoliadau 9 a 10 yn diweddaru enwau plâu yn Atodiadau 7 ac 8 er mwyn sicrhau cysondeb ag enwau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae Rheoliad 9 hefyd yn ychwanegu gofyniad yn Atodiad 7 i rai planhigion a fewnforir ar gyfer plannu fod wedi cael eu tyfu mewn man cynhyrchu cofrestredig. Mae'n ychwanegu gofynion ychwanegol i atal lledaeniad Popillia japonica Newman, ac mae'n caniatáu planhigion Capsicum lle y cânt eu cynhyrchu o hadau heb eu profi pan fwriedir eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol sydd ddim yn ymwneud â chynhyrchu planhigion. Mae'r gofynion mewnforio ar gyfer firws straen cudd mafon y gorllewin o’r feirws rhesog tybaco, feirws crychu dail mafon a feirws dail rhathellog ceirios yn cael eu hegluro. Mae cofnodion wedi cael eu hychwanegu ar gyfer cynhyrchion o Abies spp. Mill., Calocedrus decurrens Torrey, Juniperus spp. L., Larix spp. Mill., Picea spp. Mill., Pinus spp. L., a Pseudotsuga menziesii (Mirbel) Franco.
Mae Rheoliad 11 yn diweddaru'r rhestrau yn Atodiad 11 mewn perthynas â gofynion tystysgrif ffytoiechydol i ail-gategoreiddio ffrwythau a llysiau penodol sy'n cyrraedd o'r UE a'r Swistir ac mae 'pinales' wedi cael ei ail-gategoreiddio'n “Pinopsida”.
Mae rheoliad 12 yn diweddaru'r rhestr o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill y mae pasbortau planhigion y DU yn ofynnol ar eu cyfer i sicrhau cysondeb â'r enw ar gonifferau a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020 mewn perthynas ag esemptiadau o'r gofyniad am ardystiad iechyd planhigion i sicrhau cysondeb â'r gofynion rhag-hysbysu yn dilyn diwygiadau i'r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol a'r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
Mae'r Rheoliadau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, a disgwylir iddynt gael eu gosod gerbron Senedd y DU ar 8 Ionawr 2025. Nid oes gwahaniaeth polisi rhwng Llywodraeth Cymru a'r DU ynghylch y mater hwn ac mae'r Rheoliadau yn diwygio deddfwriaeth na chafodd ei gwneud yn ddwyieithog. Nid yw'r Rheoliadau yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd na chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.
Er mai egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud gan Weinidogion Cymru, y tro hwn, ystyrir ei bod yn briodol i'r Rheoliadau gael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r Rheoliadau'n ymwneud â maes datganoledig, fodd bynnag, maent yn effeithio ar fioddiogelwch Cymru, Lloegr a'r Alban – mater sydd wedi cael ei ystyried ar y cyd yn draddodiadol. Nid yw plâu a chlefydau planhigion eraill yn parchu ffiniau rhwng gwledydd. Mae llawer o'r Rheoliadau yn ymwneud â mewnforio planhigion a chynhyrchion planhigion. Mae'r rhan fwyaf o'r nwyddau hyn sy'n dod i mewn i Gymru yn dod drwy borthladdoedd Lloegr.
Gallai cyflwyno rheoliadau ar wahân yng Nghymru a Lloegr greu baich ychwanegol ar yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), ac ar fusnesau, masnachwyr a thyfwyr. Mae rheoleiddio ar sail Cymru, Lloegr a'r Alban yn cynorthwyo'r rhanddeiliaid hynny y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r gofynion o fewn y ddeddfwriaeth i gynnal ein bioddiogelwch.
Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n rhoi'r manylion am darddiad, diben ac effaith y diwygiadau, ar gael yma: The Official Controls (Plant Health) and Phytosanitary Conditions (Amendment) Regulations 2025