Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Ym mis Mai y llynedd, cyhoeddais fesurau perfformiad newydd dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 mewn ysgolion uwchradd yn 2019. Mae'r mesurau newydd yn symud y ffocws o'r 'canolig' i godi lefel ein huchelgais ar gyfer pob dysgwr. Maent hefyd yn cael gwared ar y pwyslais ar y mesur Lefel 2 cynhwysol ar gyfer TGAU a'r ffocws cul ar raddau sydd ar y ffin a ddatblygwyd o ganlyniad i'r defnydd o drothwyon yn y gorffennol. Fel y mae ein trefniadau drafft ar gyfer gwerthuso a gwella a gyhoeddais ym mis Chwefror yn ei nodi, rydym am ganolbwyntio'n fwy ar annog ysgolion i hunanwerthuso. Yn ein system ddiwygiedig, bydd pob plentyn yn cyfrif a chaiff ysgolion eu gwerthuso ar sail y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i gynnydd pob plentyn.
Yn sgil cyflwyno'r mesurau perfformiad dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4, mae gwelliannau yn cael eu gwneud i Reoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011. Disgwylir i'r rheoliadau diwygiedig ddod i rym ar 1 Medi 2019, a byddant yn adlewyrchu'r newidiadau diweddar i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4. Bydd y gwelliannau ond yn berthnasol, felly, i'r trefniadau pennu targedau ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 4. Bydd y rheoliadau diwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol cynyddu nifer y targedau amhenodol o 3 i 6, ac ni fydd yn ofynnol bellach i gyrff llywodraethu bennu targedau ar sail mesurau penodol.
Rwyf o'r farn y bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o annibyniaeth i ysgolion wella'u hunain a datblygu targedau go iawn a fydd yn helpu i godi lefel ansawdd eu haddysg a safonau cyrhaeddiad dysgwyr. Mae targedau ar eu mwyaf pwerus pan gânt eu defnyddio ochr yn ochr â phrosesau athrawon i asesu a monitro cynnydd disgyblion, i lywio'r hyn y mae angen ei wneud yn y dosbarth. Mae'n bwysig bod pawb yn dal i fod yn dawel eu meddwl bod y targedau yn briodol. Bydd yn ofynnol o hyd, felly, i awdurdodau lleol gymeradwyo'r targedau. Fodd bynnag, rwyf am ei gwneud yn gwbl glir mai dim ond fel cyfrwng i ategu gwaith hunanwerthuso ysgolion y dylid defnyddio targedau, ac na ddylid eu hystyried yn fesur perfformiad y bydd ysgolion yn atebol i awdurdodau lleol ar ei sail.
Rwy'n teimlo ei bod yn rhy fuan i wneud mwy o newidiadau mawr o ran targedau ar hyn o bryd yn y broses o ddiwygio'r cwricwlwm, ac nid wyf am wneud unrhyw newidiadau brys i'r gofynion o ran targedau Cyfnodau Allweddol 2 a 3, gan eu bod yn gysylltiedig iawn â'r trefniadau asesu cyfredol.
Mae dolenni isod i'r ymgynghoriad ar y newidiadau i'r gofynion pennu targedau mewn ysgolion yng Nghymru, ac i'r crynodeb o'r ymatebion:
https://llyw.cymru/newidiadau-i-ofynion-gosod-targedau-i-ysgolion