Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Hysbyswyd y Senedd gan fy natganiad ysgrifenedig ar 27 Hydref o’m bwriad i ohirio gwiriadau ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol sydd i fod i ddechrau ar 1 Ionawr 2023 trwy is-ddeddfwriaeth, a fydd yn ymestyn y cyfnod graddoli trosiannol tan 31 Ionawr 2024. Byddaf yn gosod y ddeddfwriaeth hon cyn toriad y Nadolig.
Dangosodd yr ymgysylltiad a fu â rhanddeiliaid ar y cynnig hwn fod yr ymatebwyr yn deall yn fras yr angen am yr estyniad o ystyried arwyddocâd gwiriadau mewnforio llawn a’r pwysau sydd ar y gadwyn gyflenwi. Mynegodd y rhan fwyaf eu cefnogaeth gyffredinol i’r newid arfaethedig.
Bydd y Senedd yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi adolygiad o fesurau rheoli ffin ym mis Ebrill 2022, gyda bwriad o gyhoeddi Model Gweithredu Targed drafft yn hydref 2022 i’w weithredu erbyn diwedd 2023. Er bod agweddau ar y drefn ar y ffin wedi ei ddatganoli, byddai’n well gan Lywodraeth Cymru weld rheolau cydlynol a chyson sy’n parchu ein safonau bioddiogelwch uchel ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’u cymheiriaid yng ngweinyddiaethau eraill y DU. Fodd bynnag, nid yw’r Model Gweithredu Targed wedi’i gwblhau a’i gytuno gan weinidogion eto.
Bydd yr estyniad pellach hwn i’r cyfnod graddoli trosiannol yn caniatáu i Lywodraeth Cymru barhau i weithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU i gwblhau a gweithredu Model Gweithredu Targed y ffin, er mwyn sicrhau system gydlynol, effeithiol ac effeithlon o fesurau rheoli.
Yn ogystal, bydd y Senedd yn ymwybodol fy mod yn fy natganiad ysgrifenedig ar 27 Hydref wedi cynnig manteisio ar y cyfle hwn hefyd i gyflwyno’r gofyniad i rag-hysbysu ar gyfer cynhyrchion penodol sy’n cael eu mewnforio i Gymru o Weriniaeth Iwerddon. Rwyf wedi gwrando’n ofalus ar yr adborth, yn enwedig y pryderon a leisiwyd gan randdeiliaid ynglŷn â’r amser sydd ar gael cyn 1 Ionawr 2023 i baratoi. Felly, rwyf wedi penderfynu gohirio cyflwyno’r gofyniad i rag-hysbysu ar gyfer y categorïau hyn o nwyddau SPS tan yn ddiweddarach yn 2023.
Ein hamcan yw i holl fewnforion yr UE fod yn ddarostyngedig i’r un gofynion rhag-hysbysu, er mwyn i ni dderbyn yr un wybodaeth hanfodol â mannau eraill ym Mhrydain Fawr. Bydd hyn yn diogelu ein bioddiogelwch, yn cynnal safonau diogelwch bwyd, ac yn golygu ein bod gallu sicrhau bod modd olrhain cynhyrchion sy’n dod i mewn i’r wlad. Bydd hefyd yn ein helpu i gynllunio seilwaith a gweithrediadau rheoli ffin, a bydd hynny yn ei dro yn helpu i sicrhau bod mesurau rheoli ffin yn cael eu gweithredu’n esmwyth yng Nghymru.
Rwyf hefyd wedi gwrando ar adborth am fanteision rheolau cyson i osgoi ystumio llwybrau masnach. Yn ddiweddar rwyf wedi cael trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar y pwnc hwn a byddaf yn ceisio cytuno ar ddyddiad gyda nhw ar gyfer cyflwyno gofyniad i rag-hysbysu ar gyfer mewnforion yr UE sy’n cyrraedd porthladdoedd arfordir y gorllewin.
Hoffwn gadarnhau’r dyddiad hwnnw cyn gynted â phosib yn y Flwyddyn Newydd er mwyn rhoi digon o rybudd i fusnesau am unrhyw newidiadau yn y dyfodol. Rhaid i mi fodd bynnag nodi bod hwn yn parhau’n fater datganoledig ac os oes angen, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n annibynnol i ddiogelu ein bioddiogelwch ac iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion yng Nghymru.