Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pleser i mi yw cael gosod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) 2013 drafft ger bron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Mae’r cyhoedd wedi bod yn mynegi eu gofidiau fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf ynghylch y ffordd y mae cŵn yn cael eu bridio yng Nghymru, yn enwedig ar safleoedd cofrestredig.  Mae gwaith ymchwil a ddatblygwyd gyntaf yn 2009 yn cydnabod nad yw’r rheolau ar gyfer trwyddedu safleoedd bridio cŵn yn gyson â Deddf Lles Anifeiliaid 2006.

Rydym wedi gwrando’n ofalus iawn ar y pryderon a fynegwyd yn ein dau ymgynghoriad cyntaf yn ogystal ag ar farn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Fridio Cŵn.  Mae canllaw manwl wedi’i lunio ac mae Llywodraeth Cymru wedi’i nodi fel rhan o’r hyn y bydd yn ei ddisgwyl yn y safonau sydd eu hangen ar safle trwyddedig a’u darparu gan awdurdodau lleol.  

Rydym wedi gosod rhai gofynion ynghylch nifer y cŵn y caiff person ofalu amdanyn nhw ac o ganlyniad i’r ail ymgynghoriad, y cyhoeddir crynodeb ohono heddiw, rwyf wedi gosod terfyn o 1 person ar gyfer 20 ci.  Nid yw’r ffigurau’n cynnwys unrhyw genawon a enir.  Rydym wedi datgan hefyd bod yn rhaid i fridwyr ddarparu rhaglenni cymdeithasoli a chyfoethogi ar gyfer cŵn ar safleoedd trwyddedig a bod yn rhaid rhoi microsglodyn ar bob anifail.  Ceir nifer o fanylion eraill yng Nghanllaw Gweinidogion Cymru.  Mater rhwydd i fridwyr sydd eisoes yn cadw at safonau uchel fydd dygymod â’r newidiadau hyn. Mae rhai eisoes yn eu bodloni ac yn rhagori arnynt.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol eisoes wedi dechrau ystyried y safonau newydd hyn, ond bydd bridwyr trwyddedig a bridwyr sydd am gael eu cofrestru am y tro cyntaf yn cael eu hystyried yn fanylach.  Felly, i sicrhau bod gennym set priodol, amserol a gorfodadwy o reolau, rwy’n cynnig 1 Ionawr 2014 fel y dyddiad cychwyn er mwyn i awdurdodau lleol allu cael digon o amser i sefydlu trefniadau trwyddedu newydd.    

Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u datblygu fel rhan o Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid Llywodraeth Cymru a’i Map Ffordd ar Les Cŵn ynghylch perchenogion cŵn cyfrifol.  Caiff y Rheoliadau drafft hyn eu trafod ar 2 Gorffennaf 2013.