Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddais ar 5 Gorffennaf am Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru), rwyf heddiw’n cyhoeddi canfyddiadau’r ymgynghoriad a ddaeth i ben ym mis Hydref.  Y prif faterion dan sylw yn yr ymgynghoriad diweddaraf oedd y gymhareb oedolion : cŵn a rôl yr awdurdodau lleol o ran pennu’r amodau y bydd rhaid i sefydliadau bridio eu cyflawni er mwyn cael trwydded.

Roedd trawsdoriad eang o ymatebion i’r ymgynghoriad. Cafwyd adborth cryf iawn y dylai’r awdurdodau lleol gael yr hyblygrwydd i osod cymhareb uwchlaw’r isafswm gofynnol pe byddai’r amodau cyfredol yn caniatáu.

Prif symbyliad y cynigion hyn yw gwella safonau lles anifeiliaid yn y sefydliadau sy’n bridio cŵn yng Nghymru. Fy nod i yw gwella lles cŵn  mewn sefydliadau bridio trwyddedig a mynnu bod lles cŵn bach a enir yn y sefydliad bridio yn cael y safonau lles uchaf posibl a’u bod yn cael eu datblygu a’u dysgu i gymdeithasu’n briodol. I’r perwyl hwn, rwy’n benderfynol o gael rheoliadau effeithlon a hawdd eu gorfodi yn sail ar gyfer ein fframwaith statudol.

Ar ôl dadansoddiad gofalus o’r dystiolaeth a ddaeth i law, rwy’n bwriadu gosod  cymhareb ofynnol o 1 oedolyn i bob 20 ci. Dyna fydd y meincnod i Swyddogion Trwyddedu Awdurdodau Lleol gadw ato wrth bennu’r gymhareb fwyaf priodol ar gyfer sefydliadau bridio, yn seiliedig ar ffactorau critigol megis brid y cŵn, faint o gŵn a enir i’r ast, natur y sefydliad a’r rhaglenni bridio.

Bwriedir cyflwyno’r rheoliadau newydd erbyn mis Chwefror 2014 ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ddeddfwriaeth hon mewn grym gan y bydd, ar y cyd â’r ddeddfwriaeth arall ar gŵn, yn gwireddu dyheadau Llywodraeth Cymru o ran lles cŵn.

Rwy’n disgwyl i’m swyddogion gydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol ar y ddeddfwriaeth hon, a hyderaf y bydd modd rhoi’r ddeddfwriaeth ar waith yn llwyddiannus drwy’r canllawiau statudol.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.