Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019. Bydd y rheoliadau hyn - os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno arnynt - yn cyflwyno isafbris o 50c am uned am alcohol.

Mae alcohol yn un o brif achosion marwolaethau a salwch yng Nghymru a bydd cyflwyno isafbris am uned yn gwneud cyfraniad pwysig i fynd i'r afael â'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â goryfed alcohol. 

Mae ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, 2019-22, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan, yn cynnwys nifer o gamau gweithredu i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys sicrhau bod gwasanaethau camddefnyddio alcohol priodol ac ymatebol ar gael cyn cyflwyno isafbris.

Wrth inni ddatblygu'r polisi ar isafbris uned, mynegwyd pryder ynghylch effaith isafbris ar bobl sy'n ddibynnol ar alcohol ac yfwyr trwm a allai ddechrau cymryd cyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau seicoweithredol yn lle alcohol o ganlyniad i'r cynnydd mewn pris. Ym mis Mawrth 2018, argymhellodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith ymchwil i'r mater hwn. Er yr ystyrir y risg yn un isel, byddwn yn monitro hyn yn agos. Rydyn ni wedi comisiynu ymchwil i edrych yn benodol ar y mater hwn, a bydd yn cael ei chyhoeddi yn nes ymlaen y mis hwn.

Ym mis Mai 2019, cyflwynais Ddatganiad Ysgrifenedig ynglŷn â lefel yr isafbris uned a ffefrir, sef 50c, gan nodi ein bwriad i osod y Rheoliadau hyn. Gwnaethom gyfeirio'r Rheoliadau drafft at Gomisiwn yr UE yn unol â'r Gyfarwyddeb Safonau a Rheoliadau Technegol 2015/1535/UE, ac yn dilyn hyn cafwyd cyfnod segur o dri mis pan nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu gosod y rheoliadau drafft. 

Wedi hynny, cawsom wybod bod Aelod-wladwriaeth yr UE wedi cyflwyno barn fanwl, a oedd yn ymestyn y cyfnod segur dri mis arall hyd 21 Awst 2019. Cyflwynwyd ymateb manwl a oedd yn amlinellu cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros gyflwyno polisi isafbris uned yng Nghymru a pham fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. 

Rydym wedi gweithio'n agos gyda manwerthwyr, y diwydiant alcohol, iechyd y cyhoedd a rhanddeiliaid camddefnyddio sylweddau i ddatblygu canllawiau a deunyddiau ategol ychwanegol ynglŷn ag isafbris am alcohol.

Byddwn yn cyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer manwerthwyr a'r cyhoedd yn y cyfnod cyn ei gyflwyno, a fydd yn parhau i hyrwyddo nodau iechyd y cyhoedd y ddeddfwriaeth.

Amcan y ddeddfwriaeth yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i ysbytai y gellid eu priodoli i alcohol a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, drwy leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol. 

Bydd y rheoliadau hyn yn cael eu trafod gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 12 Tachwedd 2019 ac, os cânt eu cymeradwyo, bydd isafbris o 50c am uned yn cael ei gyflwyno o 2 Mawrth 2020.

http://www.assembly.wales/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?assembly=5&category=Laid%20Document