Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Fel y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a chan ddefnyddio’r pwerau o dan adran 45C o Ddeddf 1984, gwnes Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (“y Rheoliadau”) er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad Covid-19. Daeth y rheoliadau i rym ar 31 Mawrth ac roeddent yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 30 Mehefin 2021, yn amodol ar adolygiad.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a phu’n a yw’r cyfyngiadau hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt:

  1. o leiaf unwaith yn y cyfnod o 31 Mawrth 2021 i 23 Ebrill 2021; ac
  2. o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 diwrnod.

Yn unol â’r gofyniad hwnnw, rwyf wedi cwblhau’r adolygiad cyntaf o’r Rheoliadau ac rwyf wedi penderfynu y dylai’r Rheoliadau barhau yn eu lle; bydd yr adolygiad nesaf yn cael ei gynnal o fewn y 21 diwrnod nesaf, yn unol â’r Rheoliadau.