Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates , AC Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers fy natganiad diwethaf ar 26 Tachwedd 2019, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi parhau i drafod gyda’r Adran Drafnidiaeth ac awdurdodau lleol Cymru ynghylch y canlyniadau anfwriadol sy’n gysylltiedig â PSVAR.  Rwyf wedi ysgrifennu eto at yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth

Er bod yr Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno eithriadau i PSVAR ar gyfer grwpiau penodol o wasanaethau teithio i ddysgwyr, mae Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru (ATCO), wedi nodi bod problemau cydymffurfio'n parhau i godi. Mae swyddogion wedi codi'r rhain gyda'r Adran Drafnidiaeth fel a ganlyn; 

  • galwadau i symleiddio'r broses weinyddol a bod tystysgrifau eithrio ar gael ar gyfer archwilio a gorfodi;
  • ymholiadau o ran beth sy'n digwydd pan fydd gweithredwr yn newid cerbyd yn y fflyd yn ystod y cyfnod eithrio. a fyddai angen tystysgrif eithrio newydd ar gyfer y cerbyd newydd drwy gyflwyniad newydd i'r Adran Drafnidiaeth neu a fyddai'n rhaid i'r cerbyd newydd gydymffurfio â PSVAR 2000 ar unwaith;
  • pryderon ynghylch yr wybodaeth sy'n dod gyda'r tystysgrifau eithrio, gan awgrymu unwaith y bydd y rhain yn dod i ben, y byddai yr Adran Drafnidiaeth yn disgwyl i gerbydau cludiant rhwng y cartref a'r ysgol gydymffurfio gyda PSVAR.Mae awdurdodau lleol yn holi a yw hyn yn cynnwys pob cerbyd o dan gontract, a allai fod yn broblem fawr;
  • pryder bod yr eithrio ychwanegol tan fis Gorffennaf 2020, sy'n cynnwys gwasanaethau sy'n cael eu caffael yn uniongyrchol gan y coleg/ysgol neu'r Awdurdod Lleol ar eu rhan, ond yn symud y broblem i rhywle arall. 
  • Y perygl bod cwmnïau sy'n cael eu gorfodi i ddefnyddio cerbydau sy'n cydymffurfio â PSVAR erbyn Medi 2020, yn arwain at Fentrau Bach a Chanolig yn methu cario ymlaen â'u busnes gan na fydd modd iddynt dalu'r costau ychwanegol, gyda disgyblion yn cael eu gorfodi i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gyrraedd yr ysgol.

Mae problem arall wedi ei chodi gan un Awdurdod Lleol, o ran gwasanaethau sy'n cael eu canslo gan gwmnïau bysiau lleol, sydd wedi bod yn cynnig gwasanaethau talu o'r fath, heb gymorthdaliad na chyfraniad gan yr ysgol na'r awdurdod. Mae'r rhain yn wasanaethau nad ydynt ar gael i'r cyhoedd ac sydd wedi bod ar y ffiniau. 

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu pryderon ATCO Cymru ynghylch y pwyntiau a godwyd, yn enwedig yr effaith bosibl ar BBaChau, awdurdodau lleol a defnyddwyr gwasanaethau. Mae'n bosibl y gallai gweithredu'r PSVAR yn llawn beryglu yr union BBaChau sy'n ddibynnol ar waith o'r fath. Rwyf wedi annog yr Ysgrifennydd Gwladol a'i adran i gydweithio â mi a swyddogion, i ddeall yr effaith ar gwmnïau bychain yn well.  Yn fy llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol, dyddiedig 15 Ionawr 2020, awgrymais mai'r ateb symlaf fyddai cyflwynon eithriad cyffredinol ar gyfer cludiant i'r ysgol. Byddai hyn yn dileu y baich gweinyddol ar yr Adran Drafnidiaeth ac Awdurdodau Lleol, y canlyniadau anfwriadol a brofwyd eisoes yn ogystal ag osgoi y tebygolrwydd o ragor o broblemau. Byddai hyn yn caniatáu i Awdurdodau Lleol a'r Adran Drafnidiaeth baratoi llwybr clir i newid y fflyd cludiant i'r ysgol i gydymffurfio gyda PSVAR, heb beryglu ymhellach na thanseilio y ddarpariaeth bresennol mewn unrhyw ffordd. Awgrymais hefyd, os nad oedd eithriad cyffredinol yn bosibl, bod manteision mewn cael eithriad arall ar gyfer y grŵp teithio hwn.

Rwyf hefyd wedi canfod bod PSVAR yn gysylltiedig â cherbydau sy'n cael eu defnyddio ar wasanaethau sydd yn lle rheilffyrdd. Ychydig o goetsus hygyrch sydd ar gael yng Nghymru, a byddai sefyllfa o'r fath yn mynd yn waeth pe byddai cerbydau o'r fath yn cael eu defnyddio ar deithiau ysgol ar yr oriau brig (y tua llan i eithriad PSVAR) ar yr un pryd.

O ystyried hyn, rwyf hefyd wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Gwladol a swyddogion yr Adran Drafnidiaeth a ydynt yn bwriadu cyflwyno eithriad ar wahân ar gyfer gwasanaethau yn lle rheilffyrdd, i osgoi canlyniadau anfwriadol pellach.