Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r rheoliadau drafft, Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024, a osodwyd gerbron y Senedd ar 13 Awst wedi cael eu tynnu'n ôl. 

Mae'r rheoliadau drafft yn cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd ar ran y GIG yng Nghymru, fel y darperir ar ei gyfer gan Ddeddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024.

Mae'r rheoliadau drafft yn cynnwys darpariaethau i ddatgymhwyso Deddf Caffael Llywodraeth y DU mewn perthynas â chaffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, y bwriad oedd cychwyn y rheoliadau drafft ar 28 Hydref, i gyd-fynd ag amseriad cychwyn diwygiadau ehangach o ran caffael cyhoeddus a gyflwynir gan y Ddeddf Caffael. 

Fodd bynnag, ar 12 Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn gohirio cychwyn y Ddeddf Caffael tan fis Chwefror 2025. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau drafft ar hyn o bryd gael eu diwygio i ddatgymhwyso caffael gwasanaethau iechyd o'r Ddeddf Caffael er mwyn sicrhau bod y rheoliadau’n cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. 

Felly, bydd y rheoliadau drafft yn cael eu diwygio a'u hailosod gerbron y Senedd i'w cymeradwyo yn y dyfodol. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law.