Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau’r Senedd am wybod fy mod i’n caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig osod Rheoliadau Gwaharddiadau Ifori (Sancsiynau Sifil) 2022 ar 16 Mawrth 2022. Bydd y rheoliadau hyn yn dod i rym ar 6 Mehefin 2022 a byddant yn cychwyn gwaharddiadau ar werthu ifori yn y DU.

Ceisiodd Victoria Prentis AS, y Gweinidog dros Ffermio, Pysgodfeydd a Bwyd, am gytundeb i wneud y rheoliadau hyn a fydd yn gymwys i’r Deyrnas Unedig.

Mae Rheoliadau Gwaharddiadau Ifori (Sancsiynau Sifil) 2022 yn cynnig darpariaeth fanwl ar gyfer gweithredu’r prosesau gorfodi o dan y Ddeddf a bydd yn gymwys i’r DU gyfan.

Mae Rheoliadau Deddf Ifori (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) 2022 hefyd yn mynd gyda’r Rheoliadau Gorfodi.. Bydd y rheoliadau hyn yn cychwyn y rhannau o’r Ddeddf ar 6 Mehefin, pan fydd y gwaharddiad ar werthu ifori yn y DU yn cychwyn.