Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd am gael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Gweinidog Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Gosodwyd Rheoliadau Gorfodi Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 (“y Rheoliadau”) gerbron Senedd y DU ar 12 Medi, drwy arfer pwerau a roddwyd o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 (“y Ddeddf”).

Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaethau i wahardd gwartheg ac anifeiliaid buchol eraill, defaid, geifr, moch neu faeddod gwyllt, a cheffylau neu anifeiliaid ceffylaidd eraill (“relevant livestock”), rhag cael eu hallforio i'w lladd, gan gynnwys eu hallforio er mwyn eu pesgi i'w lladd wedyn. Ystyr allforio yw anfon neu geisio anfon da byw perthnasol o Brydain Fawr i unrhyw le y tu allan i Ynysoedd Prydain, neu gludo neu geisio cludo, neu drefnu neu geisio trefnu i gludo da byw perthnasol o Brydain Fawr neu drwy Brydain Fawr i unrhyw le y tu allan i Ynysoedd Prydain. 

Mae'r Rheoliadau'n sefydlu pwerau gorfodi, troseddau, a chosbau sy'n gysylltiedig â'r gwaharddiad ar allforio da byw perthnasol i'w lladd, gan gynnwys eu hallforio er mwyn eu pesgi i'w lladd wedyn.

Polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru pan fo'r materion dan sylw yn rhai sydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, o dan rai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Y tro hwn, rwyf wedi rhoi cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y Rheoliadau. Drwy wneud hynny, bydd modd sicrhau bod y Rheoliadau'n cael eu cyflwyno ar yr un pryd ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban, a sicrhau hefyd y bydd modd cyfathrebu â rhanddeiliaid mewn ffordd gydlynol a fydd yn cael ei chydgysylltu'n ganolog. Caiff teithiau cludo da byw ddechrau o'r gwledydd gwahanol sy'n rhan o Brydain Fawr, a theithio drwyddynt, er mwyn cyrraedd cyrchfan. Gallai rheoliadau gwahanol ar draws Prydain Fawr, neu unrhyw wahaniaethau o ran pryd y byddai'r rheoliadau'n dod i rym, arwain at gymhlethdodau, anghysonderau a baich gweinyddol ar y diwydiant a'r asiantaethau gorfodi. 

Mae gan swyddogion Llywodraeth Cymru berthynas waith dda gyda'u swyddogion yn Defra a byddant yn parhau i weithio gyda nhw a Llywodraeth yr Alban i wella'r sefyllfa o ran diogelu lles anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo, gan gynnal cysylltiadau cadarnhaol ac adeiladol rhwng y llywodraethau. 

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU, gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol drafft, ar 12 Medi a disgwylir iddynt ddod i rym ar 1 Ionawr 2025.