Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn hysbysu Aelodau’r Senedd bod fy rhagflaenydd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, wedi ysgrifennu at y Gwir Anrh yr Arglwydd Douglas-Miller, y Gweinidog Bioddiogelwch ac Iechyd a Lles Anifeiliaid ar y pryd yn Llywodraeth y DU, ar 12 Chwefror i roi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru. Enw’r Offeryn Statudol (OS) yw Rheoliadau Fframwaith Windsor (Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol) 2024 (“Rheoliadau 2024”).

Mae’r OS yn ymwneud â rhoi Fframwaith Windsor ar waith, fel y cytunodd y DU a’r UE ar 27 Chwefror 2023. Er mwyn sicrhau bod Rheoliadau drafft 2024 yn gwireddu amcanion y fframwaith, ni chawsant eu gosod fel y bwriadwyd ym mis Chwefror 2024. Rhoddodd hynny amser i drafod ymhellach â’r Undeb Ewropeaidd ar sut i’w roi ar waith. Yn dilyn trafodaethau boddhaol, mae swyddogion Llywodraeth y DU wedi cadarnhau na fu angen newidiadau ac ag eithrio cyflwyno dyddiadau dod i rym cymalog, pery’r drafft fel yr oedd pan roddwyd cydsyniad iddo ym mis Chwefror 2024. Er gwaethaf newid Llywodraeth, rwy’n fodlon fod y cydsyniad a roddwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror yn dal i fod yn ddilys. 

Gwneir Rheoliadau 2024 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddir o dan baragraff 8C(1) a (2) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi. 

O dan Brotocol Gogledd Iwerddon, mae symud anifeiliaid anwes am resymau anfasnachol o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon yn ddarostyngedig i ofynion llawn yr UE ar gyfer trydydd gwledydd ar 1 Ionawr 2021, yn dilyn diwedd y Cyfnod Pontio. Sefydlir y gofynion hyn gan Reoliad (UE) Rhif 576/2013 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 12 Mehefin 2013 ar symud anifeiliaid anwes yn anfasnachol ("Cynllun Anifeiliaid Anwes yr UE"). Mae Fframwaith Windsor yn newid Protocol Gogledd Iwerddon ac yn rhoi fframwaith newydd, cynaliadwy a gwydn ar waith ar gyfer symud anifeiliaid anwes am resymau anfasnachol. 

Caiff Rheoliadau 2024 eu gosod ger bron Senedd y DU ar 10 Hydref 2024. Daw Rhannau 1, 2 a 4 i rym ar 31 Mawrth 2025. Daw pob rhan arall i rym ar 4 Mehefin 2025. 

Mae’r Offeryn hwn yn gwneud darpariaeth ar y gyfraith sy’n gymwys i’r Deyrnas Unedig. Nid yw’r offeryn yn effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru nac ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Pwrpas Rheoliadau 2024 yw rhoi fframwaith newydd, cynaliadwy a gwydn ar waith ar gyfer symud anifeiliaid anwes am resymau anfasnachol. Yn fwy penodol, mae cynllun anifeiliaid anwes Gogledd Iwerddon yn galluogi perchenogion anifeiliaid anwes a chŵn cymorth sy’n byw yn y DU i deithio i Ogledd Iwerddon gyda’u hanifail anwes heb fod angen rhoi triniaethau iechyd i’w hanifail na thystysgrifau teithio anifeiliaid anwes untro. 

Mae Rheoliadau 2024 yn nodi'r telerau ar gyfer gallu symud anifeiliaid anwes trwy Gynllun Teithio Anifeiliaid Anwes Gogledd Iwerddon. Maent yn nodi hefyd y bydd angen i berchennog yr anifail anwes wneud cais am ddogfen deithio anifeiliaid anwes sy'n ddilys am oes yr anifail anwes. Wrth wneud cais am y ddogfen, bydd angen i berchnogion anifeiliaid anwes ddarparu gwybodaeth benodol i'r awdurdod cymwys perthnasol, a bydd hefyd gofyn i wneud yn siŵr bod gan bob ci, cath a ffured (gan gynnwys y rheini yng Ngogledd Iwerddon) microsglodyn. Bydd gofyn i berchennog anifail anwes (neu'r sawl sy'n teithio gydag anifail anwes) wneud datganiad na fydd yr anifail anwes yn cael ei symud i'r UE wedi hynny. 

Ni fydd angen i berchennog o Ogledd Iwerddon wneud mwy na microsglodynnu ei anifail anwes er mwyn cael teithio i ac o Brydain Fawr ac ni fydd angen dogfen deithio anifeiliaid anwes nac unrhyw broses arall. 

Mae Rheoliadau 2024 a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy’n rhoi manylion hanes, pwrpas ac effaith y rheoliadau hyn ar gael yma.

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr Offeryn hwn o ganlyniad i Gytundeb Fframwaith Windsor y daethpwyd iddo gan y DU a'r UE ac a gyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2023. Mae creu rheoliadau ar gyfer Prydain Fawr yn sicrhau cysondeb ar draws y DU, gan osgoi gwahaniaethau deddfwriaethol a allai peryglu’r gallu i roi Fframwaith Windsor ar waith.