Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwy'n falch o gadarnhau y byddaf yn cyflwyno Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 i wahardd cyflenwi fêps untro yng Nghymru (gan gynnwys eu cyflenwi am ddim).
Bydd cyflwyno'r Rheoliadau hyn yn gam hanfodol arall wrth fynd i'r afael â sbwriel a llygredd plastig sy'n amharu ar ein hamgylchedd. Bydd yn lleihau faint o wastraff rydym yn ei gynhyrchu, yn diogelu ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a'n hecosystemau er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.
Ers fy natganiad diwethaf ar 22 Ebrill, rydym wedi parhau i ddatblygu'r polisi ledled y DU. Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom ofyn am sylwadau ar ein Rheoliadau drafft ac yn dilyn adborth, rydym wedi gwneud mân ddiwygiadau i'r Rheoliadau. Rydym hefyd wedi parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i helpu i lywio ein Hasesiad Effaith Rheoleiddiol a’n Hasesiadau Effaith Integredig.
Gallaf bellach gadarnhau y bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 1 Mehefin 2025. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU ac â’r Llywodraethau Datganoledig eraill ynghylch y mater hwn ac rydym yn rhagweld y bydd y rheoliadau yn dod i rym tua yr un pryd. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n bosib i gydgysylltu’r gwaith o gyflwyno’r gwaharddiadau er mwyn sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth a dull cyson o orfodi ar draws y DU.
Mae gweithredu i fynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol fêps untro yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru ac rydym yn parhau i weithio gyda gwledydd eraill y DU i fynd i'r afael â'r heriau hyn.