Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru y llynedd ar reoliadau drafft i’w gwneud o dan Fesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010.  Mae’r rheoliadau’n darparu ar gyfer ymgynghori gan Awdurdodau Lleol (h.y. Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol, Cynghorau Tref a Chymuned ac Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol) cyn penderfyniad i waredu cae chwarae.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori hefyd ar ganllawiau statudol drafft cysylltiedig i’r Awdurdodau Lleol a’r ‘Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol’ i gyd-fynd â’r rheoliadau.

Cafwyd 34 o ymatebion i’r ymgynghoriad oddi wrth gyrff ac oddi wrth unigolyn yn cynnig dros 120 o sylwadau ar y cynigion a’r cwestiynau a ofynnwyd. Rwyf yn ddiolchgar i bob un  a gymerodd amser i gyflwyno eu sylwadau. Mae’r crynodeb o’r ymatebion ynghyd â’r ymatebion eu hunain wedi cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ddiwygio’r rheoliadau drafft o ganlyniad i faterion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad, cyn y penderfyniad terfynol ar gyflwyno’r rheoliadau yn nes ymlaen eleni.   

Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau’n cael gwybod am y cynnydd ar y mater hwn.