Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Yn dilyn yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 ar 10 Chwefror, fe wnaethom nodi ein bwriad, yn amodol ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd, i lacio'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn llawer o fannau cyhoeddus dan do.
Yn gyffredinol, mae’r achosion o Covid-19 yn ôl yr hyn a adroddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a hynny’n bennaf ar sail profion PCR positif, wedi parhau i ostwng ledled Cymru ers 28 Ionawr 2022
Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod canran y bobl sy'n profi'n bositif am Covid-19 wedi gostwng yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 19 Chwefror. Amcangyfrifir bod gan tua un o bob 30 o bobl Covid-19; dyma'r lefel isaf yn unrhyw un o wledydd y DU ar gyfer y cyfnod hwn.
Ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar 18 Chwefror, roedd 208.8 o achosion am bob 100,000 o bobl. Mae’r pwysau sy'n gysylltiedig â’r pandemig yn y GIG yn parhau'n sefydlog, ond yn is na'r hyn a welwyd mewn tonnau cynharach. Ar 22 Chwefror, roedd 883 o gleifion cysylltiedig â Covid-19 mewn gwelyau ysbytai (208 yn llai nag wythnos ynghynt). Roedd 11 o gleifion mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru ag achos o Covid-19 wedi’i gadarnhau neu ei amau.
Oherwydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd, o 28 Chwefror ni fydd yn ofynnol mwyach i oedolion a phlant 11 oed a throsodd wisgo gorchuddion wyneb mewn llawer o leoedd dan do, ac eithrio mewn rhannau cyhoeddus o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol; ym mhob lleoliad manwerthu, ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Byddwn yn parhau i argymell yn ein canllawiau bod gwisgo gorchuddion wyneb yn un o nifer o ymddygiadau a all helpu i ddiogelu pobl eraill, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed.
Mae'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb, oni bai bod unigolyn wedi’i eithrio, bellach yn berthnasol i'r mannau cyhoeddus dan do canlynol:
- Safleoedd manwerthu (gan gynnwys darparwyr gwasanaethau ariannol, swyddfeydd post a chanolfannau siopa);
- Safleoedd milfeddygon a gwasanaethau tocio a golchi anifeiliaid;
- Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau;
- Safleoedd asiantau eiddo neu osod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos;
- Safleoedd gwasanaethau cysylltiad agos (salonau gwallt a siopau barbwr, salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis, a gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio);
- Safleoedd a ddefnyddir i ddarparu cludfwyd;
- Safleoedd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau meddygol neu iechyd;
- Safleoedd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol penodol: gwasanaeth cartref gofal, gwasanaethau llety diogel [neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd]. (Er mwyn diogelu preswylwyr, mae’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn berthnasol yn y safleoedd hyn hyd yn oed pan nad oes gan y cyhoedd fynediad iddynt);
- Trafnidiaeth gyhoeddus a thacsis.
Mae'r diwygiadau’n golygu nad yw’r gofynion o ran gorchuddion wyneb yn berthnasol mwyach i fathau penodol o safleoedd sy'n agored i'r cyhoedd (er enghraifft, safleoedd hamdden ac adloniant, ac atyniadau i ymwelwyr).
Ni fydd gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell fel mater o drefn mewn ystafelloedd dosbarth mwyach ond dylent barhau, o leiaf, i gael eu gwisgo gan staff a dysgwyr oedran uwchradd mewn mannau cymunedol.
Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, gallai’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb ym mhob un o’r lleoliadau sy'n weddill gael ei godi erbyn diwedd mis Mawrth.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o'r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 3 Mawrth, a bydd y mesurau sy'n weddill ar lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu.