Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Rheoliadau sy’n cael eu gwneud heddiw yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 er mwyn:

  • Ychwanegu Eritrea, Gweriniaeth Dominica, Haiti, Mongolia, Tunisia ac Uganda at y “rhestr goch” o wledydd a thiriogaethau
  • Ychwanegu Anguilla, Antigua a Barbuda, Barbados, Bermuda, Dominica, Grenada, Madeira, Malta, Montserrat, Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig, Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India, Ynysoedd Baleares, Ynysoedd Cayman, Ynysoedd Pitcairn, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf ac Ynysoedd Turks a Caicos at y “rhestr werdd” o wledydd a thiriogaethau

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 er mwyn diwygio testun rhagnodedig y cyhoeddiad gwybodaeth iechyd y cyhoedd y mae’n ofynnol i weithredwyr ei ddarparu i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaethau perthnasol. Diben y diwygiad yw cyfeirio’n benodol at y gofynion perthnasol o ran profion ar ôl cyrraedd.

Daw'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i rym am 04:00 o'r gloch ddydd Mercher 30 Mehefin.