Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ddydd Llun 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr.

Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio:

  • ar 11 Gorffennaf, tynnwyd Serbia oddi ar y rhestr;
  • ar 26 Gorffennaf, tynnwyd Sbaen a'i hynysoedd oddi ar y rhestr;
  • ar 30 Gorffennaf, ychwanegwyd Latfia, Estonia, Slofacia, Slofenia a Saint Vincent a’r Grenadines at y rhestr.

Ddoe, mynychais gyfarfod o Weinidogion o bob un o bedair gwlad y DU i ystyried y risg i iechyd y cyhoedd yn sgil y nifer cynyddol o achosion o COVID-19 yn Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth ynglŷn â’r risg i iechyd y cyhoedd erbyn hyn wrth i deithwyr ddod i'r DU o'r lleoedd hyn, bydd Llywodraeth Cymru, yn ddiweddarach heddiw, yn tynnu Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio o'n mesurau iechyd ar y ffin.

Ar y cyd â Gweinidogion eraill y DU, rwyf hefyd wedi ystyried y risg i iechyd y cyhoedd yn sgil lleihad yn nifer yr achosion o COVID-19 yn Brunei a Malaysia. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru, yn ddiweddarach heddiw, hefyd yn ychwanegu Brunei a Malaysia at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio o'n mesurau iechyd ar y ffin.

Bydd diwygiadau brys yn cael eu cyflwyno i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a fydd yn dod i rym am hanner nos heno. Bydd y diwygiadau hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i unrhyw un sy'n cyrraedd Cymru o Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg, neu sydd wedi bod yn unrhyw un o’r gwledydd neu’r tiriogaethau hynny yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, ynysu am 14 diwrnod, o yfory ymlaen. Ar y llaw arall, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un sy’n cyrraedd Cymru o Brunei neu Malaysia ynysu am 14 diwrnod, o yfory ymlaen.

Pan gaiff y Rheoliadau eu gosod bydd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn ysgrifennu at y Llywydd, yn unol â gofynion Deddf Offerynnau Statudol 1946 a'n trefn arferol.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.