Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ddydd Llun 8 Mehefin 2020.

Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr.

Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. O ran y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio o’r gofynion cwarantin:

  • ar 11 Gorffennaf, tynnwyd Serbia o’r rhestr;
  • ar 26 Gorffennaf, tynnwyd Sbaen a'i hynysoedd o’r rhestr;
  • ar 30 Gorffennaf, ychwanegwyd Latfia, Estonia, Slofacia, Slofenia a Saint Vincent a’r Grenadines;
  • Ar 8 Awst, tynnwyd Andorra, y Bahamas a Gwlad Belg o’r rhestr ac ychwanegwyd Brunei a Malaysia.

Ddoe, mynychais gyfarfod o Weinidogion o bob un o bedair gwlad y DU i ystyried y risg i iechyd y cyhoedd yn sgil y nifer cynyddol o achosion o COVID-19 yn Aruba, Ffrainc, Malta, Monaco, yr Iseldiroedd a Turks a Caicos.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth ynglŷn â’r risg i iechyd y cyhoedd erbyn hyn wrth i deithwyr ddod i'r DU o'r lleoedd hyn, bydd Llywodraeth Cymru, yn ddiweddarach heddiw, yn tynnu Aruba, Ffrainc, Malta, Monaco, yr Iseldiroedd a Turks a Caicos oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio o'n mesurau iechyd ar y ffin.

Bydd diwygiadau brys yn cael eu cyflwyno i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a fydd yn dod i rym am 04:00 o’r gloch ddydd Sadwrn 15 Awst. Bydd y diwygiadau hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i unrhyw un sy'n cyrraedd Cymru o Aruba, Ffrainc, Malta, Monaco, yr Iseldiroedd a Turks a Caicos, neu sydd wedi bod yn unrhyw un o’r gwledydd neu’r tiriogaethau hynny yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, ynysu am 14 diwrnod, o 04:00 o’r gloch yfory.

Pan gaiff y Rheoliadau eu gosod bydd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn ysgrifennu at y Llywydd, yn unol â gofynion Deddf Offerynnau Statudol 1946 a'n trefn arferol.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.