Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ddydd Llun 8 Mehefin 2020.
Ers hynny, mae'r rheoliadau hyn wedi parhau i gael eu hadolygu ac mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud:
- ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau arbenigol neu gyflogaeth a allai fod wedi'u heithrio rhag cyfyngiadau penodol;
- ar 11 Gorffennaf tynnwyd Serbia o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio, oherwydd pryderon am y risg uwch i iechyd y cyhoedd wrth i deithwyr o'r wlad honno ddod i'r DU;
- wedi hynny, ar 26 Gorffennaf, tynnwyd Sbaen a'i hynysoedd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio, am yr un rheswm.
Cynhaliwyd adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy'n Teithio i Gymru etc.) 2020 (rheoliadau teithio a gwybodaeth i deithwyr rhyngwladol) ar 27 Gorffennaf. Rwyf wedi penderfynu nad oes angen unrhyw newidiadau i'r rheoliadau gwybodaeth i deithwyr.
Yn sgil yr adolygiad, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 drwy ychwanegu at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 sy'n caniatáu i’r rhai sy’n gysylltiedig â hwy gael eu heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu. Yn ogystal, gwneir mân ddiwygiad technegol pellach i'r diffiniad o ddeiliad trwydded garthffosiaeth ac ychwanegir y canlynol at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio:
- Latfia
- Estonia
- Slofacia
- Slofenia
- St Vincent a’r Grenadines
Yn gynharach heddiw, mynychais gyfarfod o Weinidogion o bob un o bedair gwlad y DU i ystyried y risg i iechyd y cyhoedd yn sgil y nifer cynyddol o achosion o COVID-19 yn Lwcsembwrg.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth ynglŷn â’r risg i iechyd y cyhoedd erbyn hyn wrth i deithwyr ddod i'r DU o'r wlad honno, bydd Llywodraeth Cymru, yn ddiweddarach heddiw, yn tynnu Lwcsembwrg o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio o'n mesurau iechyd ar y ffin.
Bydd diwygiad brys yn cael ei gyflwyno i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a fydd yn dod i rym am hanner nos heno. Bydd hyn yn golygu y bydd gofyn i unrhyw un sy'n cyrraedd o Lwcsembwrg (neu sydd wedi bod yn Lwcsembwrg yn ystod y 14 diwrnod diwethaf) dreulio 14 diwrnod mewn cwarantin, o yfory ymlaen.
Pan gaiff y Rheoliadau eu gosod bydd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn ysgrifennu at y Llywydd, yn unol â gofynion Deddf Offerynnau Statudol 1946 a'n trefn arferol.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.