Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o fwriad Llywodraeth y DU i wneud darpariaeth er mwyn sicrhau bod teithwyr sy'n dod i’r Deyrnas Unedig o dramor yn gorfod hunainynysu am 14 diwrnod, er mwyn rhwystro coronafeirws rhag lledaenu ymhellach.

Yn hwyrach heddiw byddaf yn gwneud y rheoliadau perthnasol ar gyfer Cymru: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafirus, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a fydd yn dod i rym ddydd Llun, 8 Mehefin 2020.  Mae hyn yn adlewyrchu safbwynt cyffredin pedair gwlad y DU ar y trefniadau hyn.  Fodd bynnag, mae hefyd yn golygu na ellir gosod y rheoliadau gerbron y Senedd tan ddydd Llun, pan fydd y Swyddfa Gyflwyno yn ailagor

Pan gaiff y Rheoliadau eu gosod bydd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn ysgrifennu at y Llywydd, yn unol â gofynion Deddf Offerynnau Statudol 1946 a'n harferion arferol.