Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cael eu hadolygu’n gyson, ac ar 18 Ionawr cafodd y coridorau teithio eu hatal. Nid yw’r trefniadau presennol ar gyfer teithio o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin (y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) wedi newid, felly caniateir teithio o fewn yr ardal hon heb orfod ynysu.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn dyddiad dod i ben y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr a'r Rheoliadau Gwybodaeth i Deithwyr hyd at 31 Mai 2022. Maent hefyd yn diwygio'r esemptiad rhag y gwaharddiad ar fynediad i deithwyr ar y rhestr goch ar gyfer mordwywyr ac arolygwyr a syrfewyr llongau sy'n cyrraedd Cymru o wledydd y rhestr goch. Mae’r diwygiad hwn yn eithrio o’r esemptiad y cyfryw bersonau sy'n cyrraedd Cymru i weithio ar longau mordeithio, neu sydd wedi gweithio arnynt.

Bydd y newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn dod i rym o 04.00 o’r gloch ddydd Sadwrn 29 Mai.