Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Rheoliadau sy’n cael eu gwneud heddiw yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 er mwyn ychwanegu’r pedwar digwyddiad a ganlyn at Atodlen 4 (Rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon):

  • Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Agored Cazoo
  • R & A – Cwpan Curtis
  • Red Bull Hardline
  • The Tour of Britain

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 fel nad yw’n ofynnol i weithredwr sicrhau bod teithiwr ar wasanaeth perthnasol, sy’n berson sy’n cael ei orfodi’n gyfreithlon i deithio yng nghwrs estraddodiad, trosglwyddiad carcharor neu allgludiad, yn meddu ar hysbysiad o;

  • ganlyniad prawf cyn ymadael negatif
  • y trefniadau a wnaed i gydymffurfio ag unrhyw ofynion o ran profion ar ôl cyrraedd

Daw'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn i rym am 04:00 o'r gloch ddydd Mercher 14 Gorffennaf.