Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
Rwyf yn rhoi gwybod i Aelodau fy mod wedi gwneud Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cau Busnes) (Cymru) 2020 o dan adrannau 45C(1), (3)(c), (4)(d), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 a ddaw i rym heddiw ar 21 Mawrth 2020.
Rwy'n amgáu copi o'r offeryn statudol yr wyf yn bwriadu gosod yr offeryn a'r memorandwm esboniadol cysylltiedig pan fydd yr offeryn statudol wedi'i gofrestru.