Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Rhoddodd Deddf y Coronafeirws 2020 (y Ddeddf) bwerau brys i Weinidogion Cymru i ymateb i’r pandemig. Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020. Bydd y rhan fwyaf o'r darpariaethau dros dro yn y Ddeddf yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 24 Mawrth.
Rwyf heddiw wedi gosod Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 i estyn dwy ddarpariaeth dros dro am gyfnod o chwe mis.
Dyma’r darpariaethau:
Adran 82 – Tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc
Mae adran 82 yn darparu na chaniateir gorfodi hawl ailfynediad neu fforffediad, o dan denantiaeth fusnes berthnasol, am beidio â thalu rhent, drwy weithredu neu fel arall, yn ystod y "cyfnod perthnasol".
Cyflwynwyd y moratoriwm i gyfyngu ar yr effaith sylweddol ar fusnesau yn sgil y gyfres o ymyriadau a chyfyngiadau sydd wedi'u gosod ar economi Cymru drwy gydol y pandemig. Cafodd y darpariaethau hyn eu cynnwys fel ymyriad i fynd i'r afael â'r materion dan sylw – yn enwedig llif arian.
Yn wreiddiol, diwedd y cyfnod perthnasol ar gyfer y ddarpariaeth hon oedd 30 Mehefin 2020. Wedyn, cytunodd Gweinidogion Cymru i estyn y moratoriwm ar sawl achlysur. Yn fwyaf diweddar, cafodd y "cyfnod perthnasol" ei estyn mewn perthynas â Chymru tan 25 Mawrth 2022 gan Reoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 3) 2021.
Mae hyn wedi rhoi gwarchodaeth i denantiaid busnes perthnasol tra hefyd yn rhoi amser i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â Llywodraeth y DU wrth ddatblygu'r Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws). Mae'r Bil hwn yn mynd rhagddo drwy Senedd y DU ar hyn o bryd a disgwylir iddo ddiogelu’n barhaus tenantiaethau busnes sy'n dod o fewn cwmpas y Bil, tra hefyd yn darparu ar gyfer cyfundrefn gyflafareddu bwrpasol mewn rhai amgylchiadau.
Bwriad y cynnig i estyn Adran 82 yw parhau i roi’r cyfle i Weinidogion Cymru estyn y cyfnod perthnasol os ystyrir ei fod yn ofynnol yng nghyd-destun y Bil.
Adran 38 (Atodlen 17) – Parhad dros dro: addysg a hyfforddiant a gofal plant
Mae'r darpariaethau hyn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau parhad dros dro i sefydliadau addysgol, darparwyr gofal plant cofrestredig ac awdurdodau lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd camau rhesymol – neu gamau penodol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn rhesymol – mewn cysylltiad â darparu addysg, hyfforddiant, gofal plant (neu wasanaethau sy'n ymwneud â'r rhain), neu wasanaethau a chyfleusterau ategol, am gyfnod penodedig.
Cyn rhoi'r cyfarwyddyd, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw gyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru (neu ei ddirprwyon) sy'n ymwneud â mynychder achosion o’r coronafeirws, neu ei drosglwyddiad, a rhaid iddynt benderfynu bod rhoi'r cyfarwyddyd yn gam angenrheidiol a chymesur ar gyfer neu mewn cysylltiad â pharhau i ddarparu, fel y bo'n berthnasol, addysg, hyfforddiant neu ofal plant ac yn y blaen. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi hysbysiadau i ddatgymhwyso neu addasu, am gyfnod o fis, ofynion statudol penodol mewn addysg a gofal plant, pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn fod rhoi’r hysbysiad yn gam priodol a chymesur o dan yr holl amgylchiadau sy'n ymwneud â mynychder achosion o'r coronafeirws neu drosglwyddiad y coronafeirws.
Er nad oes gofyniad i estyn y darpariaethau gofal plant neu addysg uwch neu addysg bellach, efallai y bydd angen ystyried pwerau i ysgolion ddatgymhwyso neu addasu gofynion penodol, os bydd tarfu sylweddol pellach yn ystod y flwyddyn academaidd hon o ganlyniad i’r pandemig.
Mesur wrth gefn yw hwn i raddau helaeth – nid ydym yn cynllunio nac yn disgwyl defnyddio'r ddarpariaeth hon yn y cyfnod ymestyn o chwe mis oni bai bod angen.
Mae dadl ar y Rheoliadau wedi’i threfnu ar gyfer 29 Mawrth.