Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a ddechreuodd ar 21 Medi 2010 ac a ddaeth i ben ar 17 Rhagfyr 2010 i helpu i lunio’r cynigion drafft a’r rheoliadau drafft ar gyfer dyletswyddau cydraddoldeb penodol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cyhoeddir yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cefndir

Ym mis Chwefror 2005, sefydlodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr Adolygiad o’r Gyfraith Gwahaniaethu i edrych ar anghysonderau yn y fframwaith ar gyfraith gwahaniaethu ac i ystyried y ffordd orau o sicrhau deddfwriaeth cydraddoldeb fwy eglur a syml sy’n arwain at well canlyniadau i’r sawl sy’n profi anfantais.

Sefydlwyd Fframwaith Tegwch: Cynigion ar gyfer Mesur Cydraddoldeb Unigol
i Brydain Fawr ym Mehefin 2007. Fe’i dilynwyd yn fuan wedyn gan Fframwaith ar gyfer Dyfodol Tecach – y Mesur Cydraddoldeb’, ac ‘Y Mesur Cydraddoldeb - Ymateb y Llywodraeth i’r Ymgynghoriad, y ddau wedi’u cyhoeddi gan Swyddfa Gydraddoldeb y Llywodraeth.

Yn ddiweddarach, cyhoeddwyd y Mesur Cydraddoldeb yn araith y Frenhines ar 3 Rhagfyr 2008.  Cyflwynwyd y Mesur gerbron y Senedd ym mis Ebrill 2009 ac ar ôl taith lwyddiannus drwy Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi cafodd y Mesur Gydsyniad Brenhinol fis Ebrill 2010.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Dechreuwyd gweithredu mwyafrif y Ddeddf Cydraddoldeb ar 1 Hydref 2010.

Fel y mae wedi’i chyflwyno ar hyn o bryd, mae’r Ddeddf yn cryfhau’r gyfraith mewn nifer o feysydd. Mae’r Ddeddf yn:

  • Ymestyn yr amgylchiadau lle caiff person ei amddiffyn rhag gwahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth oherwydd nodweddion gwarchodedig.
  • Ymestyn yr amgylchiadau lle caiff person ei amddiffyn rhag gwahaniaethu drwy ganiatáu i bobl wneud hawliad os gwahaniaethir yn uniongyrchol yn eu herbyn oherwydd cyfuniad o ddwy nodwedd warchodedig berthnasol.
  • Creu dyletswydd ar gyrff cyhoeddus rhestredig wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau ac ar bobl eraill wrth iddynt ymgymryd â swyddogaethau cyhoeddus i roi sylw dyledus wrth ymgymryd â’u swyddogaethau i:
    • Ddileu ymddygiad a waherddir gan y Ddeddf;
    • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhai nad ydynt; a
    • Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt. Effaith ymarferol hyn yw y bydd yn rhaid i gyrff cyhoeddus rhestredig ystyried sut fydd eu polisïau, eu rhaglenni a’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn effeithio ar bobl â nodweddion gwarchodedig.
  • Caniatáu cyflogwr neu ddarparwr gwasanaeth neu sefydliadau eraill i gymryd camau positif er mwyn galluogi cyflogeion neu gwsmeriaid presennol neu bosibl i oresgyn neu leihau unrhyw anfantais sy’n deillio o nodwedd warchodedig i’r graddau posibl;
  • Ymestyn y caniatâd i bleidiau gwleidyddol i ddefnyddio rhestrau byr sy’n cynnwys merched yn unig ar gyfer ymgeiswyr etholiadau hyd 2030.
  • Galluogi tribiwnlysoedd cyflogaeth i wneud argymhelliad i ymatebwr sydd newydd golli hawliad yn erbyn achos o wahaniaethu i gymryd camau penodol i unioni materion nid er budd yr unigolyn a wnaeth yr hawliad yn unig (a all fod eisoes wedi gadael y sefydliad dan sylw) ond hefyd er budd y gweithlu ehangach.
  • Diwygio cyfraith eiddo teuluol i ddiddymu darpariaethau gwahaniaethol ac i roi hawliau eiddo statudol ychwanegol i bartneriaid sifil yng Nghymru a Lloegr.
  • Diwygio Deddf Partneriaeth Sifil 2004 i ddiddymu’r gwaharddiad rhag cofrestru partneriaethau sifil mewn adeiladau crefyddol.

Cymru

Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru o ran dyletswyddau cydraddoldeb ar y sector cyhoeddus. Mae adrannau 153 a 154 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i osod dyletswyddau penodol ar gyrff Cymreig perthnasol ac mae adran 151 yn rhoi pŵer iddynt drwy orchymyn a chyda chydsyniad Gweinidog y Goron i ddiwygio Rhan 2 Atodlen 19 sy’n pennu’r cyrff Cymreig perthnasol sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol i’r sector cyhoeddus.

Mae gweithdrefn yn cael ei phennu o ran gosod dyletswyddau penodol ar gyrff Cymreig trawsffiniol a ychwanegwyd at Atodlen 19 gan Weinidog y Goron. Mae’r weithdrefn yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod dyletswyddau penodol o ran swyddogaethau Cymreig datganoledig ar y cyrff trawsffiniol neu ddarparu ar gyfer dyletswyddau penodol a osodir gan Weinidog y Goron ond dim ond ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

Yr Ymarfer Gwrando

Er mwyn ffurfio’r dyletswyddau hyn, cyhoeddodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd ‘Ymarfer Gwrando’ ar 27 Gorffennaf  2009 i gynorthwyo pobl i ystyried sut y gallai’r dyletswyddau newydd weithio. Amlinellwyd rhai syniadau cynnar yn Hybu cydraddoldeb ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i ganfod sut y dylai’r dyletswyddau penodol newydd hyn a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru edrych.

Wrth ystyried amlinelliad a chwmpas unrhyw ddyletswyddau cydraddoldeb penodol y dylid eu datblygu yng Nghymru, awgrymwyd rhai meysydd gweithgarwch allweddol lle mae potensial i hybu cyfle cyfartal yn well yng Nghymru:

  • Pennu amcanion cydraddoldeb
  • Ymgynghori a Chynnwys
  • Asesu effaith
  • Adrodd ar gynnydd yn erbyn amcanion
  • Gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau a swyddi ar wahân
  • Caffael yn y Sector Cyhoeddus
  • Sut y mae arolygu’n cynorthwyo’r agenda gydraddoldeb; ac
  • Adrodd gan Weinidogion Cymru  

Gweithgarwch yn ystod yr Ymarfer

Cafodd yr Ymarfer Gwrando ei ddosbarthu i grwpiau a rhwydweithiau cydraddoldeb ledled Cymru. Yn ystod yr ymarfer gwrando, bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn mynychu cyfres o weithdai, fforymau a digwyddiadau eraill a drefnwyd i godi ymwybyddiaeth ac i drafod y datblygiadau a’r cyfleoedd a allai ddeillio o’r dyletswyddau newydd hyn. Derbyniodd mudiadau cydraddoldeb arian gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i ganfod barn mudiadau sy’n cynrychioli grwpiau cydraddoldeb yng Nghymru.

Yr Ymarfer Gwrando – y Prif Ganfyddiadau

Derbyniodd Llywodraeth Cymru dros 60 o ymatebion a chyfraniadau gan amrywiaeth o fudiadau ac unigolion yn ystod yr ymarfer gwrando. Y farn gyffredinol oedd:

  • Bod yr egwyddorion ynghylch y dyletswyddau’n briodol ac y dylai’r ffordd y cânt eu cymhwyso fod yn gymesur â maint a swyddogaeth yr awdurdod cyhoeddus a’u swyddogaeth.
  • Dylai’r dyletswyddau roi elfen o hyblygrwydd i awdurdodau cyhoeddus i benderfynu ar flaenoriaethau lleol ar yr amod eu bod yn cyfrannu at amcanion cenedlaethol.
  • Cafwyd cefnogaeth gyffredinol i’r cynnig i bennu amcanion cydraddoldeb.
  • Dylid ymestyn yr agwedd bositif tuag at gysylltiad o fewn y rheoliadau anabledd cyfredol i gynnwys y nodweddion gwarchodedig eraill.
  • Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi bod yn ddull positif i’r rhan fwyaf o fudiadau ac y dylai unrhyw ddyletswydd barhau lle mae’n ofynnol i asesiadau gael eu cynnal a’u cyhoeddi.
  • Rhaid i awdurdodau cyhoeddus gasglu data am bobl sy’n rhannu’r nodweddion gwarchodedig i helpu i ddatblygu amcanion ystyrlon.
  • Ni chafwyd consensws ynghylch maint mudiadau y dylid gosod y gofynion hyn arnynt.
  • Roedd y rhan fwyaf yn cytuno y dylid cynnwys adrodd ar wahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau.
  • Cafwyd cefnogaeth i’r angen i gynnwys caffael yn y dyletswyddau penodol.
  • Dylai arolygiadau chwarae rôl amlycach i hybu cydraddoldeb.
  • Cafwyd mwy o gefnogaeth i adrodd blynyddol gan Weinidogion Cymru ac y dylai adrodd ganolbwyntio ar ganlyniadau positif a negyddol i wella tryloywder.   

Ymgynghoriad ar Ddyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru

Ar 29 Gorffennaf 2010, cymeradwyais y gwaith o ddrafftio’r rheoliadau a’r gorchmynion gofynnol i osod dyletswyddau cydraddoldeb penodol i’r sector cyhoeddus ar awdurdodau cyhoeddus datganoledig rhestredig yng Nghymru.

Ar 21 Medi 2010, cyhoeddais ymgynghoriad cyhoeddus o ddeuddeng wythnos ar y Rheoliadau drafft a oedd yn cael eu cynnig ac a fyddai'n cyflwyno’r dyletswyddau newydd.

Ers cychwyn ar y gwaith o ddatblygu dyletswyddau cydraddoldeb penodol i’r sector cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai’r dyletswyddau penodol fod yn:

  • Hyblyg – fel y bydd awdurdodau cyhoeddus ond yn gweithredu pan fo hynny’n angenrheidiol ac yn gynhyrchiol; a
  • Chymesur – yn ddibynnol ar swyddogaeth a maint yr awdurdod cyhoeddus.

Dylai datblygiad y dyletswyddau cydraddoldeb penodol ddilyn pedair egwyddor. Y rhain oedd:

  • Defnyddio tystiolaeth: tystiolaeth gadarn dda i ddeall y cymunedau a asanaethir a llunio camau gweithredu yn y dyfodol;
  • Ymgynghori a chynnwys: er mwyn i anghenion y dinasyddion helpu i
    lunio’r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n addas at y diben, yn diwallu anghenion ac yn sicrhau canlyniad cadarnhaol;
  • Tryloywder: sef sut y pennwyd yr amcanion a sut y cyflwynir adroddiadau cynnydd yn erbyn yr amcanion; ac
  • Rhoi arweiniad: arweiniad cadarn sy’n creu diwylliant a hinsawdd gadarnhaol yn y sector cyhoeddus i ddefnyddio adnoddau yn effeithiol er mwyn eu helpu i gyflawni eu dyletswyddau cydraddoldeb yn llwyddiannus. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awyddus i gefnogi awdurdodau cyhoeddus i ddarparu gwell gwasanaethau i ddinasyddion Cymru.

Gweithgareddau yn ystod yr Ymgynghoriad

Yn dilyn cyhoeddi’r ymgynghoriad yn ystod dadl lawn ar 21 Medi 2010, cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori a’r rheoliadau ar wefan Llywodraeth Cymru o’r enw ‘Deddf Cydraddoldeb 2010: Cyflawni Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru’.

Hefyd, agorwyd fforwm trafod ar-lein i annog trafodaeth ac i roi cyfrwng i bobl gyhoeddi eu barn ar yr ymgynghoriad. Cafodd y ddogfen ymgynghori ei hanfon drwy ddulliau electronig hefyd at grwpiau a mudiadau o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus ledled Cymru. Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg a fformat sain.

Bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn bresennol mewn cyfres o weithdai, fforymau a digwyddiadau eraill a drefnwyd i godi ymwybyddiaeth ac i drafod yr ymgynghoriad yn fwy manwl. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Digwyddiadau rhanbarthol Cyfnewidfa Cydraddoldeb y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn Abertawe, y Rhyl a Chaerdydd.
  • Digwyddiadau Trydydd Sector y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y Rhyl a Chaerdydd.
  • Digwyddiadau ar y cyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru / Canolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn y Gogledd / y Canolbarth a’r De.
  • Grŵp Rhwydwaith Cydraddoldeb y Canolbarth yn Aberystwyth
  • Rhoddwyd cyflwyniadau i Gynhadledd Gweithle Stonewall ac i Fforwm y Cymunedau Ffydd; a
  • Chynhaliwyd cyfarfodydd ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Daeth y broses ymgynghori i ben ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2010.

Ymatebion i’r Ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael 80 o ymatebion a chyfraniadau gan amrywiaeth o fudiadau ac unigolion yn ystod yr ymarferiad ymgynghori. Mae’r adroddiad ar ganlyniad yr ymarferiad wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, cafodd cynigion polisi diwygiedig a rheoliadau diwygiedig eu llunio a chânt eu cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8 Mawrth 2011. Bydd y rheoliadau a’r gorchymyn yn cael eu hystyried gan y Cynulliad ar 29 Mawrth 2011. Yn ddibynnol ar farn y Cynulliad, disgwylir y bydd y dyletswyddau cydraddoldeb penodol newydd i’r sector cyhoeddus yn dod i rym ar 6 Ebrill 2011.