Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn gosod Offeryn Statudol gerbron y Cynulliad, sef Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 sy'n cyflwyno Rheoliadau newydd a fydd yn rheoli'r canfasiad etholiadol blynyddol o 2020 ymlaen.  Bydd yr Offeryn Statudol hwn yn dilyn y weithdrefn gadarnhaol. 

Lluniwyd y Rheoliadau newydd o ganlyniad i raglen waith ar y cyd â Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU i foderneiddio a diwygio'r canfasiad blynyddol.  Bydd y Rheoliadau yn cadw elfennau cadarn y canfasiad cyfredol ond byddant yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i Swyddogion Cofrestru Etholiadol deilwra'r canfasiad ar gyfer yr aelwydydd yn eu hardal. 

Gan fod y cyfrifoldeb am faterion etholiadol sy'n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ac etholiadau'r Senedd bellach wedi ei ddatganoli, bu'n rhaid cyflwyno deddfwriaeth ym mhob un o'r tair gweinyddiaeth er mwyn diwygio'r canfasiad. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud hynny drwy gyflwyno Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) 2019 a wnaed ar 4 Tachwedd 2019. 

Cyflwynir yr Offeryn Statudol fel rhan o gyfres o ddiwygiadau etholiadol gan gynnwys estyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig. Cyflawnwyd hynny'n rhannol gan Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru) a Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (a gyflwynwyd ar 18 Tachwedd 2019). Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) hefyd yn cynnwys darpariaethau pwysig eraill sydd â'r nod o wella cyfraddau cofrestru etholwyr megis cofrestru heb wneud cais, a elwir weithiau cofrestru awtomatig, a'r opsiwn o greu Cronfa Ddata Cymru gyfan o Wybodaeth Cofrestru Etholiadol.

Ynghyd â'r newidiadau i'r canfasiad blynyddol a gyflwynir gan y rheoliadau hyn, bydd ein diwygiadau etholiadol yn moderneiddio'r broses gofrestru yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a gwella profiad etholwyr. Gyda'i gilydd maent yn cynrychioli newid sylweddol i'n system etholiadol a rhaglen waith eang ei chwmpas a fydd yn cymryd amser i'w rhoi ar waith yn llawn ac yn effeithiol. Ein nod hirdymor yw gwneud prosesau etholiadol yn fwy syml, yn fwy hygyrch ac yn fwy perthnasol i etholwyr.

Gan hynny hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch am waith caled staff y timau etholiadol sy'n gweithio yn ein 22 o awdurdodau lleol.  Ni ellir cyflawni'r diwygiadau pwysig hyn heb eu hymrwymiad a'u cyfraniadau hwythau, ac rwyf yn ddiolchgar iawn am eu cymorth wrth ddatblygu'r gwaith hwn.