Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Mae rheoliadau 2025 yn dirymu Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Tramor (Ffioedd) 2024 (O.S. 2024/942). Roedd y rheoliadau cynharach yn ymestyn ac yn gymwys i'r DU gyfan. Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau gyda'r Llywodraethau datganoledig ynghylch materion cymhwysedd, mae'r offeryn hwn yn ymestyn ac yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig. Wrth ail-wneud darpariaeth a gynhwysir yn O.S. 2024/942, mae rheoliadau 2025 hefyd yn cywiro gwallau drafftio blaenorol mewn perthynas â diffiniadau sy'n ymwneud â gwasanaethau a fwriedir ar gyfer sefydliadau ffoaduriaid a gwasanaethau blaenoriaeth.

Mae'r Offeryn hwn hefyd yn diweddaru'r gwasanaethau a'r ffioedd sy'n gysylltiedig â chymharu a chydnabod cymwysterau'r DU a chymwysterau tramor. Darperir y gwasanaethau hyn yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol. Canolfan Wybodaeth Genedlaethol y DU ("UK ENIC") sy’n darparu'r gwasanaethau hyn ("gwasanaethau ENIC y DU"). Mae darparwr allanol, Ecctis Limited, yn gweithredu’r gwasanaethau ENIC y DU trwy gontract gyda'r Adran Addysg.

Mae'r Offeryn hwn yn cynnwys y newidiadau canlynol mewn perthynas â gwasanaethau a ffioedd:

  • Ffioedd am wasanaethau: Mae cynnydd wedi'i gymhwyso i holl wasanaethau ENIC y DU i reoli costau cyflawni uwch o ganlyniad i chwyddiant.
    • Pecyn tanysgrifio: Mae'r disgrifiad o'r gwasanaeth wedi'i ddiweddaru i gyfeirio at y cymorth ar gyfer ymholiadau gan danysgrifwyr lle mae hyn yn berthnasol.
      • Gwasanaethau ategol:
    • Mae'r ffi o £7.50 ar gyfer darparu 'datganiad cymaroldeb' (statement of comparability) neu 'datganiad ar gymhwyster' (qualification reference statement) mewn fformat electronig sy'n cynnwys llofnod electronig y gellir ei wirio wedi'i ddileu fel opsiwn.
    • Mae ffioedd ar gyfer cymorth ychwanegol gan y darparwr i ddefnyddwyr y pecyn tanysgrifio ar gyfer hyd at 300 o ymholiadau ychwanegol wedi'i ychwanegu fel opsiwn.
    • Mae ffioedd ar sail cyfraddau ar gyfer aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau ar gyfer cynhadledd undydd a chynhadledd ddeuddydd wedi'u cynnwys fel opsiynau.

Mae rheoliadau 3 i 6 yn nodi'r ceisiadau a'r gwasanaethau y gellir codi ffi amdanynt. Mae rheoliad 7 yn nodi'r trefniadau talu. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ar ad-daliadau. Mae rheoliad 9 yn cynnwys darpariaethau dirymu ac arbed. Mae'r Atodlenni yn crynhoi pob cais neu wasanaeth ac yn nodi'r ffi gyfatebol.

Mae'r DU wedi llofnodi dau gytuniad rhyngwladol ynghylch cydnabod cymwysterau academaidd: y Confensiwn ar Gydnabod Cymwysterau sy'n ymwneud ag Addysg Uwch yn y Rhanbarth Ewropeaidd, a lofnodwyd gan y Deyrnas Unedig ar 7 Tachwedd 1997; a'r Confensiwn Byd-eang ar Gydnabod Cymwysterau sy'n ymwneud ag Addysg Uwch, a lofnodwyd gan y Deyrnas Unedig ar 25 Tachwedd 2019 (gyda'i gilydd "y Confensiynau").

Nod y Confensiynau yw hwyluso symudedd academaidd a phroffesiynol rhwng gwladwriaethau a gwella cydweithredu ac ymddiriedaeth ryngwladol mewn addysg uwch. Mae'r Confensiynau yn gorfodi’r gwladwriaethau a’u llofnododd i weithredu cydnabyddiaeth ar gyfer cymwysterau o wladwriaethau eraill a’u llofnododd ac yn nodi sut y bydd penderfyniadau cydnabod yn cael eu gwneud. Mae'r Confensiynau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwladwriaethau a’u llofnododd sefydlu a chynnal canolfan wybodaeth genedlaethol sy'n hwyluso mynediad at wybodaeth am addysg uwch a chymwysterau. 

Mae gwasanaeth ENIC y DU yn cyflawni swyddogaethau gwybodaeth a chydnabod ar gyfer y DU. Hyd yma mae'r DU wedi cyflawni'r rhwymedigaethau hyn trwy wasanaethau y mae'r Adran Addysg wedi contractio darparwr allanol (Ecctis) i'w gweithredu. Mae gwasanaeth ENIC y DU yn hanfodol ar gyfer recriwtio myfyrwyr a gweithwyr mewn gwahanol sectorau o economi'r DU. Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ac unigolion sy'n byw yng Nghymru ac sy'n bwriadu astudio yng Nghymru.

Egwyddor gyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylai'r gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig gael ei gwneud a'i diwygio yng Nghymru. Fodd bynnag, y tro hwn, rwy'n ystyried ei bod yn briodol i sylwedd y gwelliannau a gynhwysir yn yr Offeryn Statudol hwn gan y DU fod yn gymwys i Gymru. Rhaid i'r rheoliadau sy'n darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer codi ffioedd ddod i rym i gyd-fynd â chontract newydd Llywodraeth y DU â darparwr allanol i weithredu’r gwasanaethau. Yn fy marn i, nid deddfu ar wahân i Gymru fyddai'r ffordd fwyaf priodol o roi effaith i'r newidiadau sydd eu hangen, ac ni fyddai'n ddefnydd doeth o adnoddau Llywodraeth Cymru.

Gwnaed Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Tramor (Ffioedd) (Cymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon) 2025 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gyda chaniatâd y Trysorlys, ar 4 Mawrth drwy arfer pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973. Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 5 Mawrth a byddant yn dod i rym ar 28 Mawrth.