Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod yn gosod Rheoliadau gerbron y Senedd, sef Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) (Estyn i’r Swistir a Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2024 (“Rheoliadau Cymru 2024”).

Ym mis Mehefin 2023, llofnododd y DU a'r Swistir Gytundeb ynghylch cydnabod cymwysterau proffesiynol rhwng y ddwy wlad. Rhaid i'r Cytundeb gael ei weithredu erbyn 1 Ionawr 2025.

Mae Rheoliadau Cymru 2024 yn diwygio Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 (O.S. 2023/1294 (Cy. 230)) ("Rheoliadau Cymru 2023") i estyn cymhwyso Rheoliadau Cymru 2023 i Gydffederasiwn y Swistir a diwygio Rheoliadau Cymru 2023 at ddiben gweithredu Cytundeb y Swistir mewn perthynas â’r rheoleiddwyr Cymreig, ac mewn cysylltiad â hynny.

Mae'r holl broffesiynau a reoleiddir gan y gyfraith yng Nghymru neu unrhyw ran arall o'r DU o fewn cwmpas y Cytundeb, a bydd gofyn i'w rheoleiddwyr weithredu'r system ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol fel y nodir yn y Cytundeb. Mae hyn yn cynnwys proffesiynau sy'n cael eu rheoleiddio ar lefel ddatganoledig, er enghraifft addysg a gofal cymdeithasol.

Mae Rheoliadau Cymru 2024 hefyd yn cynnwys darpariaethau i gywiro mân wallau yn Rheoliadau Cymru 2023.