Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau o'r Senedd am gael gwybod rwyf yn rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.

Gofynnwyd am gytundeb gan y Farwnes Hayman i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Cyd-drefniadaeth y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Safonau Marchnata a Chynhyrchion Organig) (Darpariaethau Trosiannol) (Diwygio) 2025 i fod yn gymwys o ran Prydain Fawr. 

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud yr OS uchod drwy arfer y pwerau a roddir gan erthygl 89(a) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 ac adran 38(5) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill.

Mae'r OS yn diwygio'r Rheoliadau isod:

  • Rheoliad y Cyngor a Ddargedwir (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynnyrch organig (EUR 2007/834); 
  • Rheoliad y Comisiwn a Ddargedwir (EC) Rhif 543/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod (EUR 2008/543); 
  • Rheoliad y Comisiwn a Ddargedwir (EC) Rhif 1235/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ynghylch y trefniadau ar gyfer mewnforio cynhyrchion organig o drydydd gwledydd (EUR 2008/1235);
  • Rheoliad y Comisiwn a Ddargedwir (EC) Rhif 1295/2008 ar fewnforio hopys o drydydd gwledydd (EUR 2008/1295); 
  • Rheoliad a Ddargedwir (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (EUR 2013/1308); 
  • Rheoliadau Ardystio Hopys 1979, mewn cysylltiad â Phrydain Fawr (O.S. 1979/1095).

Daeth y rheoliadau hyn i ben ar 31 Ionawr 2025, er mwyn caniatáu i'r darpariaethau trosiannol presennol ar gyfer Safonau Marchnata a Chynhyrchion Organig gael eu hymestyn hyd at 1 Chwefror 2027.

Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 9 Ionawr 2025 a byddant yn dod i rym ar 1 Chwefror 2025.