Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mawrth 2021 cafodd rheoliadau eu gwneud  i sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru. Yn ogystal â darparu ar gyfer sefydlu pob un o'r Cyd-bwyllgorau, roedd y Rheoliadau'n cynnwys manylion allweddol megis yr aelodaeth a'r trefniadau cyfansoddiadol craidd, yn ogystal â’r tair swyddogaeth graidd a fydd yn cael eu harfer gan bob Cyd-bwyllgor: cynllunio datblygu strategol; cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol; a'r pŵer i wneud pethau i hyrwyddo neu wella lles economaidd eu hardaloedd.

Roedd Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021 yn darparu y byddai'r tair swyddogaeth graidd yn cael eu rhoi i’r Cyd-bwyllgor ar 28 Chwefror 2021. Cytunwyd ar y dyddiad hwn gydag arweinwyr awdurdodau lleol y De-ddwyrain ac roedd yn cyd-fynd â'u hagenda uchelgeisiol i drosglwyddo gwaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i'r Cyd-bwyllgor cyn gynted â phosibl.

Rwyf heddiw’n gosod Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Diwygio) 2022 sy'n diwygio Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain 2021 i newid y dyddiad y rhoddir y tair swyddogaeth graidd i Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain o 28 Chwefror 2022 i 30 Mehefin 2022.

Arweinwyr yr awdurdodau lleol yng Nghyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain a ofynnodd am y newid hwn er mwyn rhoi mwy o amser iddynt fynd i’r afael â materion technegol sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â rhoi trefniadau ar waith cyn i'r tair swyddogaeth graidd ddechrau.

Bydd Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Diwygio) 2022 yn cael eu gwneud o dan y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol a byddant yn destun dadl yn y Senedd ar 15 Chwefror.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Diwygio) 2022 yn dod i rym ar 18 Chwefror 2021.