Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Diben y datganiad hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ynghylch yr ymgynghoriad arfaethedig ar reoliadau drafft y gronfa ddata, yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r canllawiau statudol terfynol i awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref a’r dyddiad y daw rheoliadau’r gronfa ddata i rym.
Bydd Aelodau’n ymwybodol fod ein proses ymgynghori ar ganllawiau statudol newydd ynghylch addysg yn y cartref i awdurdodau lleol wedi’i chynnal rhwng 29 Gorffennaf a 25 Hydref 2019. Cafwyd 471 o ymatebion. Daeth yr ymatebion oddi wrth ystod amrywiol o bobl a sefydliadau, gan gynnwys asiantaethau statudol, fel awdurdodau lleol a’r sector iechyd, rhanddeiliaid o fyd addysg, sefydliadau addysg yn y cartref a phobl sy’n addysgu yn y cartref. Byddwn yn cyhoeddi dadansoddiad ar lefel uchel o’r ymgynghoriad ar y canllawiau statudol yn y flwyddyn newydd.
Rydw i’n wirioneddol falch fod cynifer wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac i weld yr amrywiaeth barn a fynegwyd. Mae’n eglur o fanylder yr ymatebion fod hynny wedi cymryd cryn amser ac ymdrech, ac rwy’n cydnabod hefyd ei fod yn adlewyrchu pa mor gryf yw’r teimladau ynghylch rhai o’r materion dan sylw. Fodd bynnag, gan fod nifer sylweddol o’r ymatebion wedi codi materion technegol, polisi a chyfreithiol cymhleth y mae gofyn eu hystyried yn ofalus, rhaid inni sicrhau bod y canllawiau terfynol a’r rheoliadau drafft yn rhoi ystyriaeth lawn iddynt. Felly, rydw i wedi penderfynu ymestyn yr amserlenni ar gyfer ymgynghori ar y rheoliadau drafft ynghylch y gronfa ddata, cyhoeddi’r canllawiau statudol ynghylch addysg yn y cartref i awdurdodau lleol a hefyd y dyddiad y daw’r rheoliadau i rym.
Bydd y broses ymgynghori 12 wythnos ar y rheoliadau drafft yn digwydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cynnal digwyddiadau â hwyluswyr ar gyfer rhai â diddordeb. Bydd manylion y rhain ar gael yn y flwyddyn newydd pan fyddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd iddynt ar ein gwefan, drwy twitter a sefydliadau rhanddeiliaid. Yn ystod yr hydref 2020 y bydd y canllawiau statudol yn cael eu cyhoeddi a daw rheoliadau’r gronfa ddata i rym hefyd yn hydref 2020.
Mae’r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft wedi dangos yn eglur pa mor sensitif ac emosiynol yw natur unrhyw gynigion ynghylch addysg yn y cartref. Yn benodol, roedd materion yn ymwneud â diogelu data a hawliau dynol yn amlwg ymhlith ymatebion gan bobl sy’n addysgu yn y cartref. Rydym wedi cymryd yr amser i fframio’r ddogfen ymgynghori ar y rheoliadau mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r pryderon hyn, ac i ddarparu eglurdeb ar oblygiadau rheoliadau’r gronfa ddata o ran diogelu data a hawliau dynol.
Rydw i’n ymwybodol iawn o gryfder y teimladau ymhlith y rhai sy’n addysgu yn y cartref ynghylch yr effaith y gallai ein canllawiau a’n rheoliadau yn y maes hwn ei chael arnynt. Rydw i’n cymryd y pryderon hyn o ddifrif. Ar yr un pryd, rhaid imi ganfod cydbwysedd rhwng y pryderon hyn a barn awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, sydd â disgwyliadau rhesymol y maent yn eu rhannu, y bydd y canllawiau statudol a’r rheoliadau yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael addysg briodol. Rydw i’n cydnabod ei bod yn bosibl y bydd yr amserlenni diwygiedig yn siomi rhai rhanddeiliaid ond rydw i’n hyderus fy mod yn gwneud y penderfyniad iawn wrth gymryd rhagor o amser i ystyried y sylwadau a rannwyd â ni yn ystod yr ymgynghoriadau. Rydw i’n credu y byddai peidio â gwneud hynny yn tanseilio holl ddiben ymgynghori’n drwyadl.
Byddwn yn parhau i weithio’n agos â’r holl randdeiliaid a phartneriaid cyflawni i sicrhau bod gennym ganllawiau statudol a rheoliadau sy’n addas i’r diben, yn rhesymol ac yn gymesur. Yn ogystal, cyn cyhoeddi’r canllawiau’n derfynol a chyn i’r rheoliadau ddod i rym, byddant yn destun prosesau a chraffu cadarn, fel asesiad o'r effaith ar ddiogelu data, asesiad effaith integredig ac asesiad effaith rheoleiddiol, er mwyn sicrhau eu bod ill dau yn gyfreithlon.
Hoffwn ddiolch i’r holl ymatebwyr am roi o’u hamser i gyflwyno’u barn ar y canllawiau statudol drafft i awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref. Edrychaf ymlaen at gael barn rhanddeiliaid ar y rheoliadau drafft, a hoffwn sicrhau ymatebwyr y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd amser i roi ystyriaeth ddyledus i bob un o’r ymatebion a gafwyd yn ystod y ddau ymgynghoriad.