Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn sgil yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol o ran y Coronafeirws, rwyf wedi gwneud rheoliadau er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn gymaint ag y bo modd rhag trosglwyddiad y feirws.  

Yn unol â Rheoliad 3, rwy'n datgan bod mynychder neu drosglwyddiad y Coronafeirws newydd yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd, ac yr ystyrir bod y mesurau a amlinellir yn y Rheoliadau hyn yn ffordd effeithiol o beri oedi o ran trosglwyddiad y feirws neu o’i atal rhag cael ei drosglwyddo ymhellach.