Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

RHEOLIADAU CAFFAEL CYHOEDDUS (CYTUNDEB AR GAFFAEL GAN LYWODRAETHAU) (TROTHWYON) (DIWYGIO) 2021

Trosolwg o Bolisi'r OS:

Mae angen diwygio deddfwriaeth gaffael (a nodir isod) er mwyn gweithredu'r Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau yn ddomestig o dan Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau) (Trothwyon) (Diwygio) 2021.

Y Gyfraith sy'n cael ei diwygio:

("y Rheoliadau Caffael")

Diben y gwelliannau

Mae'r offeryn hwn yn diweddaru'r trothwyon ariannol y gellir eu hadolygu ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n rheoli'r gweithdrefnau ar gyfer dyfarnu contractau cyhoeddus ar gyfer nwyddau, gwaith a gwasanaethau. Mae'r offeryn hwn hefyd yn newid y cyfrifiad o werth amcangyfrifedig caffaeliad er mwyn cynnwys TAW. Mae'r newidiadau hyn yn deillio o rwymedigaethau'r DU o dan Gytundeb y WTO ar Gaffael gan Lywodraethau (GPA).

Mae'r trothwyon a'r fethodoleg ar gyfer cyfrifo gwerth contract a ddefnyddir yn y Rheoliadau Caffael yn gymwys i bob caffaeliad a gwmpesir gan y Rheoliadau hynny. Ni wahaniaethir rhwng caffaeliadau sy'n dod o fewn cwmpas y GPA a'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.  Mae'r dull hwn yn cael ei ddefnyddio gan y byddai'n gymhleth ac yn anymarferol cael trothwyon a methodolegau cyfrifo gwahanol ar gyfer caffael GPA a rhai nad ydynt yn GPA, a hefyd i gyfrif am wahaniaethau o fewn caffaeliadau GPA drwy gyfeirio at y gwahanol gynigion a wnaed gan y DU i wahanol aelodau'r GPA.  Mae'r OS yn mabwysiadu'r un dull ac felly'n cymhwyso'r newidiadau sy'n gysylltiedig â'r GPA ar draws yr holl gaffaeliadau a gwmpesir gan y Rheoliadau Caffael. 

Mae'r OS a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi effaith pob gwelliant ar gael yma.

Unrhyw effaith y gall yr OS ei chael ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Nid yw'r OS yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru.

Unrhyw effaith y gallai'r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd

Nid yw'r OS yn cael unrhyw effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Pam y rhoddwyd caniatâd

Nid oes gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran y polisi ar gyfer yr addasiadau ac nid oes disgresiwn ynghylch sut y gweithredir rhwymedigaethau'r GPA. Rydym yn fodlon i Lywodraeth y DU wneud y Rheoliadau hyn ar gyfer Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol i Lywodraeth y DU ddeddfu ar ei rhan yn yr achos hwn.