Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw wedi gosod drafft o Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025. Bydd y rhain yn cyfyngu ar hyrwyddo cynhyrchion â lefelau uchel o fraster, siwgr a halen, yn ôl lleoliad a phris, mewn busnesau canolig a mawr sy'n gwerthu bwyd neu ddiod yng Nghymru.

Yn benodol, bydd y cyfyngiadau lleoli yn atal cynhyrchion sy'n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen rhag cael eu hyrwyddo mewn lleoliadau allweddol fel mynedfa siop, pen draw eil a man talu. Byddant yn berthnasol ar-lein hefyd, er enghraifft ar dudalen fynediad gwefan. Bydd cyfyngiadau hyrwyddo yn gwahardd manwerthwyr rhag defnyddio cynigion amleitem a chynigion ‘mwy am yr un pris’ i hyrwyddo cynhyrchion o'r fath.  Bydd ail-lenwi diodydd llawn siwgr am ddim yn cael ei gyfyngu hefyd.

Mae'r rheoliadau hyn yn gam hanfodol o ran cyflawni'r uchelgeisiau yn ein strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach. Byddant yn helpu i symud y sylw oddi wrth fwydydd llai iach ac yn helpu i wneud cynhyrchion iachach yn fwy amlwg, hygyrch a gweladwy. Wrth wneud gwelliannau i'n hamgylcheddau bwyd, ein nod cyffredinol yw ei gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau iachach o ran bwyd a diod. Bydd hynny'n eu helpu i fyw bywydau iachach ac i osgoi problemau iechyd sy'n gysylltiedig â deiet. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn y llynedd ac rydym wedi gwneud rhai newidiadau ar sail yr adborth a gafwyd. Fodd bynnag, at ei gilydd, mae'r rheoliadau'n parhau i gyd-fynd â’r rhai sydd ar waith yn Lloegr. 

Byddwn yn parhau i gynorthwyo busnesau ac awdurdodau lleol i weithredu a gorfodi'r gofynion a gyflwynir gan y rheoliadau hyn. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau ategol cynhwysfawr a bydd cyfnod gweithredu o 12 mis cyn i'r rheoliadau ddod i rym, a hynny’n amodol ar sêl bendith y Senedd fis nesaf.