Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw yn y Senedd rwyf wedi cyflwyno Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2020 (“y Rheoliadau Diwygio”) sy’n diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020, a ddaeth i rym ar 22 Ebrill 2020 (“Rheoliadau mis Ebrill 2020”).

Dolen isod:

https://senedd.wales/laid%20documents/sub-ld13268/sub-ld13268%20-w.pdf

Mae Rheoliadau mis Ebrill 2020 yn gwneud darpariaeth dros dro i ddarparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol (gan gynnwys gweithrediaethau awdurdodau lleol) gwrdd yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gyfreithlon yn ystod pandemig COVID-19. Mae Rheoliadau mis Ebrill 2020 yn galluogi cyfarfodydd awdurdodau lleol i gael eu cynnal lle bo’r holl gyfranogwyr neu rai ohonynt yn ymuno o bell, gan gadw’r egwyddorion o fod yn agored ac yn atebol drwy ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau cyfarfod gael eu cyhoeddi’n electronig. 

Ar y cyfan, mae’r darpariaethau diwygio yn delio â mân faterion a materion technegol yn ymwneud â Rheoliadau mis Ebrill 2020. Maent yn cynnwys darpariaeth, er enghraifft, i sicrhau bod yr hysbysiad a roddir cyn cyfarfodydd i ystyried adroddiadau penodol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a darpariaethau yn ymwneud â chofnodion cyfarfodydd pwyllgorau safonau yn gyson â’r trefniadau a gyflwynwyd gan Reoliadau mis Ebrill 2020.

Mae Rheoliadau mis Ebrill 2020 yn darparu hyblygrwydd i awdurdodau lleol gynnal cyfarfodydd y mae’n ofynnol iddynt (yn rhinwedd deddfiad neu offeryn arall) eu cynnal cyn 1 Mai 2021 (heblaw am gyfarfodydd blynyddol penodol) ar unrhyw ddiwrnod ac ar unrhyw amser cyn 1 Mai 2021 y mae’r awdurdod lleol yn ei bennu. Serch hynny, mae nifer bach o gyfarfodydd y mae’n ofynnol yn ôl statud iddynt eu cynnal o fewn cyfnod penodedig ar ôl i adroddiadau penodol gael eu hanfon i awdurdodau (neu at aelodau, yn ôl y digwydd). Ar ôl ystyried y peth, rwyf wedi dod i’r casgliad bod pwnc cyfarfodydd o’r fath mor ddifrifol fel nad yw hi er budd y cyhoedd i’r hyblygrwydd a ddarperir gan Reoliadau mis Ebrill 2020 fod yn gymwys i’r cyfarfodydd y mae’n ofynnol iddynt eu cynnal o dan y darpariaethau a restrir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Diwygio.

Mae’n hanfodol bwysig bod sefydliadau democratiaeth leol yn parhau i weithredu yn ystod y cyfnod hwn a bod aelodau etholedig a phobl leol yn cael y cyfle i graffu ar benderfyniadau awdurdodau lleol a’u herio. Gan ganiatáu amser i aelodau a swyddogion ymgyfarwyddo â chyfarpar a gweithdrefnau newydd, rwy’n falch o weld bod llawer o awdurdodau lleol ledled Cymru wedi dechrau cwrdd unwaith eto. 

Roedd yr ymateb i Reoliadau mis Ebrill 2020 yn gadarnhaol ac mae fy swyddogion a minnau wedi cael ceisiadau gan sawl un i wneud llawer o’r newidiadau yn rhai parhaol. Byddaf yn ystyried newidiadau o’r fath yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol, gan gynnwys yr effaith ar y ffordd o gynnal busnes awdurdodau lleol a’r effaith ar hygyrchedd.

Yn y cyfamser, rwy’n annog yr awdurdodau lleol hynny sydd wedi bod yn fwy gofalus i fanteisio ar yr hyblygrwydd newydd ac ailgydio yn eu gwaith cyn gynted â phosibl. Byddaf yn parhau i fonitro’r sefyllfa a datblygiadau.