Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae'r pandemig coronafeirws presennol yn effeithio ar fywydau pob un ohonom ac fe fydd yn parhau i gyflwyno nifer o heriau i'r ffordd yr ydym yn gallu gweithredu yn ystod y cyfnod hwn.
Mae gwaith yr awdurdodau lleol yn hanfodol wrth gefnogi unigolion, busnesau a chymunedau ar yr adeg eithriadol hon. Mae graddfa a natur yr heriau sy'n cael eu hwynebu bob dydd yn ddigynsail, ond mae ymdrechion yr awdurdodau lleol i gydweithio â sectorau eraill ledled Cymru i fynd i'r afael â'r pandemig hwn yn ysbrydoledig ac yn gwneud inni deimlo’n wylaidd.
Ymhlith y mesurau sy'n cael eu defnyddio i fynd i’r afael â COVID-19 mae cadw pellter cymdeithasol, osgoi teithio nad yw'n hanfodol a'r gofyniad i weithio gartref lle y bo'n bosibl. Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth yn gosod gofynion ar awdurdodau lleol i gyfarfod wyneb yn wyneb mewn swyddfeydd penodedig, i sicrhau bod llawer o gyfarfodydd ar agor i'r cyhoedd ac i alluogi'r cyhoedd i archwilio dogfennau sy'n ymwneud â'r cyfarfodydd, a hynny mewn rhai achosion yn swyddfeydd yr awdurdodau lleol. Mae hyn yn groes i'r mesurau sydd ar waith ar gyfer COVID-19.
Lle y gall y Llywodraeth gymryd camau i leihau'r rhwystrau i ddilyniant busnes ac osgoi aflonyddwch diangen mae’n bwysig inni wneud hynny.
Rwyf yn dal i fod mewn cysylltiad rheolaidd ag arweinwyr awdurdodau lleol i nodi camau y gellir eu cymryd i gefnogi ein teulu llywodraeth leol. Drwy'r trafodaethau hyn a thrafodaethau parhaus rhwng fy swyddogion a chynrychiolwyr Cynghorau Cymuned, Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe, nodwyd nifer o feysydd lle y byddai llacio rhai o'r gofynion mewn deddfwriaeth yn helpu'r cyrff hynny i barhau i gyflawni eu swyddogaethau pwysig.
Mae'r rheoliadau sy'n dod i rym heddiw yn gwneud darpariaeth dros dro mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol a rhoi mynediad i’r cyhoedd a'r wasg i'r cyfarfodydd hyn yn ystod pandemig COVID-19. Nid wyf yn disgwyl i gyfarfodydd awdurdodau lleol ddychwelyd i'r drefn arferol am rai misoedd ac felly bydd angen i gynghorau fod yn hyblyg er mwyn darparu ar gyfer busnes brys yn ymwneud â COVID-19.
Mae'r Rheoliadau'n cynnig hyblygrwydd i alluogi awdurdodau lleol i weithredu'n ddiogel, yn effeithiol ac yn gyfreithlon, gan gadw'r egwyddorion o fod yn agored ac yn atebol i'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys galluogi cynnal cyfarfodydd lle bo’r holl fynychwyr neu rai ohonynt yn ymuno o bell, a thrwy wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi dogfennau penodol yn electronig.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i brif gynghorau a'u gweithrediaethau, cynghorau cymuned, Awdurdod Iechyd Porthladd Bae Abertawe, Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub ledled Cymru.
Mae’r rheoliadau i’w gweld yma (dolen allanol).
Mae'n bwysig cydnabod cyfraniad cynrychiolwyr yr holl sefydliadau hyn wrth ddatblygu'r rheoliadau hyn sydd wedi canolbwyntio ar gynnal eu ffocws ar ddarparu gwasanaethau i unigolion ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.